Cyhuddo undeb o gamarwain ffermwyr am gyllido wedi Brexit
- Cyhoeddwyd
Mae'r Ysgrifennydd Cefn Gwlad wedi cyhuddo undeb amaethyddol o gamarwain aelodau ynghylch cynlluniau newydd i ariannu'r diwydiant ar ôl Brexit.
Bydd Lesley Griffiths yn cymryd y cam anarferol o ysgrifennu'n uniongyrchol at bob ffermwr yng Nghymru i egluro'i phenderfyniad i gael gwared ar y taliad sengl.
Mae Undeb Amaethwyr Cymru (FUW) wedi annog aelodau i anfon cardiau post yn rhybuddio'r Ysgrifennydd yn erbyn disodli'r Cynllun Taliad Sylfaenol (BPS) gyda dwy raglen arall.
Dywed Ms Griffiths y dylai ffermwyr fynegi eu barn drwy ymateb i'r ymgynghoriad swyddogol sy'n para tan ddiwedd mis Hydref. Mae'r undeb yn gwrthod yr honiad ac yn rhybuddio y bydd problemau ariannol.
Bydd y taliad uniongyrchol y mae ffermwyr wedi'i dderbyn ers degawdau ar sail faint o dir sydd dan eu gofal yn diflannu'n raddol o 2020.
Yn ei le mae Llywodraeth Cymru'n cynnig cyflwyno system o grantiau busnes a chronfa hefyd i wobrwyo ffermwyr am helpu'r amgylchedd.
'Chwalu'r mythau'
Mae'r FUW wedi annog ei haelodau i anfon cardiau post gyda'r neges "mae'r hyn sy'n cael ei gynnig am arwain at darfu'n aruthrol ar waith ffermwyr, caledi ariannol, a cholli ffermydd a busnesau gwledig, ac mi ddylai gael ei wrthod".
Mewn ymateb mae Ms Griffiths yn danfon llythyr agored at ffermwyr, ynghyd â thaflen o ffeithiau sy'n "chwalu'r mythau" am y cynigion fydd yn dod yn lle'r BPS.
"Rydym angen i ffermwyr i gysylltu'n uniongyrchol gyda ni i'n cynorthwyo gyda hyn, felly dyw ymgyrch camarweiniol diweddar yr FUW ddim yn helpu," dywedodd y gweinidog.
Lansiodd ymgynghoriad, Brexit a'n Tir ym mis Gorffennaf.
Dywedodd Ms Griffiths bod gadael yr UE - a'i ddulliau o ariannu dan Bolisi Amaethyddol Cyffredin - yn golygu bod hi'n bryd gwneud pethau yn wahanol neu fe fydd ffermwyr ar eu colled.
"Dwi'n agored i syniadau newydd ac mae hwn yn ymgynghoriad diamheuol, ond 'dwi'n pwysleisio nad yw "busnes yn ôl yr arfer" yn opsiwn."
Beth yw'r taliadau newydd?
Bydd cynllun cadernid economaidd yn targedu buddsoddiad i gynyddu cystadleugarwch a gwneud gwelliannau i'r system o gynhyrchu bwyd. Bydd hyn yn cynnwys cefnogaeth i ddarganfod marchnadoedd newydd, i greu o'r newydd ac i amrywiaethu.
Bwriad y cynllun nwyddau cyhoeddus fydd darparu arian i ffermwyr wynebu heriau fel newid hinsawdd, risg llifogydd, colli cynefin, safon aer a dŵr gwael.
Y gobaith yw cael y cynlluniau newydd yn eu lle erbyn 2025.
Gwadodd Nick Fenwick, cyfarwyddwr polisi FUW, honiadau o gamarwain a dywedodd ei fod yn credu ei fod yn ddigynsail i weinidog ysgrifennu at ffermwyr â'r ymgynghoriad ar ei hanner.
"Rydym o fewn ein hawliau i amlygu diffygion posib yn yr hyn sy'n cael ei gynnig fel cynnig yn sgil ansicrwydd o amgylch Brexit."
Yn ôl Mr Fenwick, roedd yn risg anferthol a gallai gwneud newidiadau cyn i unrhyw un wybod gwir oblygiadau Brexit fod yn "drychinebus".
Mae Patrick Holden, sylfaenydd a phrif weithredwr Sustainable Food Trust yn cefnogi'r polisïau newydd.
Mae'n poeni bod nifer o'r ffermydd mwyaf proffidiol Cymru - yn anfwriadol, oherwydd y rheolau presennol -yn achosi difrod amgylcheddol.
Dywedodd Mr Holden: "Mae angen i ni annog pobl i fabwysiadu ffyrdd mwy cynaliadwy o ffermio ar raddfa os ydynt am osgoi effeithio'n ddi-droi'n-ôl ar newid hinsawdd, difrod i fioamrywiaeth ac afiechyd yn ymwneud â bwyd.
Yn ôl Mr Holden, mae'r polisïau newydd yn "symud manteision economaidd" i gyfeiriad ffermwyr sy'n ymarfer dulliau cynaliadwy lle fo angen.
Fe wnaeth Ms Griffiths ymweld â fferm laeth organig Mr Holden yng Ngheredigion ddydd Iau.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Medi 2018
- Cyhoeddwyd24 Awst 2018