Express Motors: Rheithgor yn ystyried dyfarniad

  • Cyhoeddwyd
Bysus

Mae'r rheithgor wedi dechrau ystyried eu dyfarniad yn achos perchnogion cwmni bysus o Wynedd, sydd wedi eu cyhuddo o hawlio degau o filoedd o bunnoedd am deithiau ffug.

Mae perchennog Express Motors, Eric Wyn Jones o'r Bontnewydd, a'i feibion, Ian Wyn Jones, Keith Jones a Kevin Wyn Jones yn gwadu'r cyhuddiadau'n eu herbyn.

Clywodd y llys fod pasiau bws i bobl dros 60 oed, a oedd wedi eu colli neu wedi eu dwyn, wedi cael eu defnyddio ar fysiau dros 80,000 o weithiau yn ystod cyfnod o ddwy flynedd.

Honiad yr erlyniad oedd fod y cwmni wedyn yn hawlio arian am y deithiau ffug gan Gyngor Gwynedd, a oedd wedyn yn hawlio'r arian yn ôl gan Lywodraeth Cymru drwy'r cynllun consesiynau teithio.

Dywedodd y Barnwr Timothy Petts wrth y rheithgor y byddai'n rhaid iddyn nhw, wrth ystyried eu dyfarniad, benderfynu a oedd hyn wedi digwydd yn fwriadol neu drwy camgymeriad.

Mae'r rheithgor wedi cael mynd adre brynhawn dydd Iau, ac fe fyddan nhw'n ailddechrau ystyried fore Gwener.