Aaron Ramsey i adael Arsenal?
- Cyhoeddwyd
![Aaron Ramsey](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/10612/production/_103609076_ramseyalt_bodygetty.jpg)
Mae ei gytundeb yn dod i ben 30 Mehefin 2019
Mae hi'n bosib y bydd Aaron Ramsey yn gadael Arsenal cyn diwedd y tymor.
Roedd chwaraewr canol cae Cymru yn fodlon gyda chynnig y clwb o delerau newydd am bedair blynedd ond ar ôl cytuno ar hynny mae Arsenal wedi tynnu'r cynnig yn ôl.
Bydd cytundeb presennol Ramsey yn dod i ben ddiwedd Mehefin nesaf.
Byddai hynny'n golygu y byddai'r chwaraewr 27 oed ar gael yn rhad ac am ddim i glybiau eraill, neu fe allai Arsenal benderfynu ei werthu ym mis Ionawr .
Mae Ramsey ac Arsenal wedi gwrthod dweud pam fod y cytundeb newydd wedi methu.