Angen eglurhad pam nad oedd fideo yn 'rhywiaethol'

  • Cyhoeddwyd
Gareth BennettFfynhonnell y llun, Youtube/Gareth Bennett
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r fideo gan Gareth Bennett bellach wedi'i ddileu

Tri o weinidogion mwyaf blaenllaw Cymru ydy'r diweddaraf i alw am ailystyried penderfyniad i beidio dynodi fideo dadleuol gan Aelod Cynulliad fel un rhywiaethol.

Cafodd arweinydd UKIP yng Nghymru, Gareth Bennett, ei feirniadu'n hallt am wneud fideo ar wefan YouTube oedd yn gwneud sylwadau am AC Llafur Joyce Watson.

Fe wnaeth Ms Watson gwyno i Gomisiynydd Safonau'r Cynulliad Cenedlaethol, Syr Roderick Evans, ond penderfynodd nad oedd y fideo yn rhywiaethol nac yn fisogynistaidd ac felly ni wnaeth fynd â'r mater ymhellach.

Alun Davies, Vaughan Gething ac Eluned Morgan ydy'r diweddaraf i feirniadu penderfyniad Syr Roderick.

Mae'r BBC wedi gofyn i'r comisiynydd a Mr Bennett am sylw.

Beth oedd cynnwys y fideo?

Yn y fideo mae Gareth Bennett yn cyfeirio at y ffaith fod Ms Watson yn arfer rhedeg tafarn, ac yn dweud "ond fyddech chi ddim yn credu hynny o edrych arni".

Dywedodd hefyd: "Dyw hi ddim yn edrych fel enaid y parti. Dwi ddim yn siŵr fyddwn i'n mynd am beint sydyn i'r dafarn leol pe bydden i'n ei gweld hi'n tynnu peintiau wrth y bar."

Ffynhonnell y llun, YouTube
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Joyce Watson gwyno i'r comisiynydd am y fideo

Mae'r fideo yn cynnwys delwedd o wyneb Ms Watson wedi ei osod ar gorff barforwyn mewn ffrog â gwddf isel.

Mae'r fideo bellach wedi'i ddileu.

Beth yw'r ymateb diweddaraf?

Dywedodd yr Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething, y dylai'r comisiynydd egluro pam y daeth i'r casgliad nad oedd y fideo yn rhywiaethol.

"Byddwn i'n hoffi ei weld yn cael ymosodiad o synnwyr cyffredin ac ailystyried ei safbwynt," meddai ar Twitter.

Cytunodd Alun Davies, yr Ysgrifennydd Llywodraeth Leol, gan ddweud fod y penderfyniad yn rhedeg yn groes i bolisi'r cynulliad o "urddas a pharch".

"Mae 'na gytundeb ar draws y siambr bod y fideo yma'n anghywir ac mae angen ailedrych ar y penderfyniad," meddai.

Dywedodd Eluned Morgan, Ysgrifennydd yr Iaith Gymraeg, wrth BBC Cymru: "Os nad yw'r fideo yna'n rhywiaethol, dwi ddim yn siŵr beth sydd."

Beth nesaf?

Mae'r BBC ar ddeall y bydd y mater yn cael ei drafod mewn cyfarfod grŵp aelodau Llafur ddydd Mawrth.