Prifathro'n euog o ymosodiad rhyw ar fenyw yn ei swyddfa
- Cyhoeddwyd
Mae prifathro ysgol gynradd yng Nghaerdydd wedi ei gael yn euog o ymosodiad rhyw ar fenyw ar ôl ei galw i'w swyddfa.
Clywodd Llys y Goron Casnewydd fod Kevin Thomas - pennaeth Ysgol Gynradd Glan-yr-Afon, Llanrhymni - wedi cyffwrdd yn y ddynes mewn modd rywiol ar ôl "gwirioni" arni a danfon cyfres o ebyst awgrymog ati.
Roedd y diffynnydd 46 oed o'r Tyllgoed, sy'n dad i ddau o blant, wedi gwadu dau gyhuddiad o ymosodiadau rhyw ar y ddynes.
Bydd yn cael ei ddedfrydu cyn diwedd y mis ar ôl i'r llys ei gael yn euog o un o'r cyhuddiadau, ac yn ddieuog o'r llall.
Clywodd y rheithgor bod Thomas wedi galw'r ddynes i'w swyddfa yn yr ysgol a rhoi dillad isaf iddi gan ddweud y bydden nhw'n "edrych yn hyfryd" arni hi.
Aeth ymlaen i wneud symudiad o natur rhywiol wrth ei thynnu tuag ato.
Dywedodd hithau bod ymddygiad Thomas wedi gwneud iddi deimlo'n "ofnus ac yn anniogel".
Cafodd Thomas ei ddiarddel o'i waith ar gyflog llawn ym mis Mawrth 2017 pan gafodd yr honiadau eu cyflwyno.