Yr ifanc a ŵyr: Fflur Dafydd a Menna Elfyn
- Cyhoeddwyd
Mae Menna Elfyn yn fardd toreithog sydd wedi cyhoeddi nifer o gyfrolau, a Fflur Dafydd yn gerddor ac yn awdur, yn sgrifennu cyfresi teledu fel Parch, a'r gyfres newydd 35 Awr, fydd ar S4C yn fuan.
Yma mae'r fam a'r ferch yn trafod eu perthynas, dylanwadau ac ysgrifennu:
Fflur Dafydd: "Fe agorodd Mam y drws i ferched eraill... a dwi'n falch iawn o'i chyfraniad hi."
Roedd yr anogaeth i ddarllen a chreu wastad yna ar yr aelwyd. O'dd e'n normal i fi a'm mrawd a'r plant drws nesa' greu sgript a pherfformio'r sioe i'n rhieni. Dyna'n ffordd normal ni o chware.
Wnes i dyfu lan mewn cymuned glos mewn ardal wledig iawn, ym Mhenrhiwllan tu fas Llandysul. Roedd lot o lyfrau yn y tŷ, lot o straeon, ac o'n i'n hoff iawn o ddarllen a dychmygu pethe. O'n ni'n deulu oedd yn mynd i'r Steddfod a gweld sioeau, roedd lot o fy mhlentyndod i am y byd dychmygol mewn ffordd, ac roedd hynny'n cael ei annog.
Dwi'n cofio roedd Mam yn un o athrawon yr Ysgol Sul ac roedd hi'n dweud wrthon ni am greu sioeau ein hunain, dwi'n dal i gofio rhai ohonyn nhw. Roedd yn wefreiddiol i ni fel plant i greu rhywbeth newydd.
O'n i'n ymwybodol bod Mam yn teithio lot ac yn mynd i wyliau gwahanol, ac yn mynd dramor. Roedden ni'n aml yn troi rhyw wahoddiad oedd ganddi i fynd i ŵyl, mewn i wyliau teuluol. O'n ni'n blasu profiadau gwahanol trwy ei gwaith hi.
Pan o'n i'n 13 oed, aethon ni i Mecsico. Oedd e'n drip ymchwil i Mam. Roedd hi'n sgwennu nofel i blant o'r enw Madfall ar y Mur. Aethon ni o gwmpas Mecsico am dair wythnos a mynd i gartrefi plant, oedd yn agoriad llygad. Dwi'n meddwl mor lwcus o'n ni fel plant i gael y profiadau hyn.
O'n i hefyd yn sylweddoli bod modd teithio ar draws y byd gyda dy waith, a dy fod ti'n gallu sgwennu'n Gymraeg. Pan o'n i'n fy ugeiniau cynnar, wnes i dderbyn lot o wahoddiadau gwahanol, ac mae'r profiadau rhyngwladol yna wedi bod yn werthfawr i fy ngwaith i hefyd.
Mam, a'i chwaer Anti Sian, sy'n darllen fy ngwaith i gynta'. Mae Mam wastad wedi bod yn hynod gefnogol o fy sgwennu i ers pan o'n i'n yr ysgol.
Ond dwi byth yn dangos sgriptiau teledu iddi achos mae hi a Dad yn mwynhau teledu gymaint, fi mo'yn iddyn nhw brofi'r cyfresi yn hollol o'r newydd. 'Sdim byd mwy diflas na gwylio rhaglen deledu yn gwybod beth sy'n mynd i ddigwydd achos dy fod ti wedi darllen y sgript!
Dwi mewn byd gwahanol i'r byd yr oedd Mam ynddo pan o'n i'n fach. Roedd yna gyn lleied o fenywod yn feirdd proffesiynol, ond roedd Mam mor gynhyrchiol yn y cyfnod. Roedd hi'n teimlo ei bod hi'n bwysig i ddod mas â chyfrol ar ôl cyfrol, a'i bod hi'n cyfrannu at gorff o waith oedd yn gosod stamp menywod ar lenyddiaeth.
Dwi ddim yn teimlo rhyw reidrwydd fel 'na ar y funud, achos mae 'na lot o fenywod yn sgwennu rhyddiaith da. Ond dwi'n falch iawn o'r cyfraniad dwi'n gallu 'neud.
Fe agorodd Mam y drws i ferched eraill a'u hysbrydoli nhw i allu creu, a dwi'n falch iawn o'i chyfraniad hi. Ar y pryd roedd hi'n 'neud teithiau barddonol - doedd menywod ddim fel arfer yn gwneud hynny. Fi'n cofio mynd i weld ei sioeau barddol hi, o'n i wrth fy modd yn ei gweld hi'n darllen ei cherddi a theimlo'r bwrlwm, a gweld Mam yn 'neud rhywbeth oedd yn bwysig.
Ar y llaw arall, fi'n cofio astudio ei cherddi hi yn yr ysgol pan o'n i yn fy arddegau. Roedd e'n deimlad o cringe i astudio cerdd Er Cof am Kelly gan Mam ar y cwrs TGAU. O'n i ddim eisiau bod yn wahanol i neb arall.
Fi'n cofio bod mewn darlith Gymraeg yn y brifysgol yn Aberystwyth a Mihangel Morgan, y darlithydd, yn siarad am awr gyfan am Menna Elfyn, gyda fi'n eistedd reit yn y blaen. Roedd sefyll arholiad ar Lenyddiaeth Menna Elfyn yn y coleg bach yn bizarre.
Ond dwi'n falch bod Mam wedi gosod cwys ei hunan, yn sgwennu'n unigryw ac yn rhyngwladol, a dwi'n sylweddoli nawr, gan mod i'n fam fy hun, pa mor anodd oedd e iddi sgwennu gyda phlant bach yn y tŷ.
Os oedd Mam yn ein gyrru ni i wers biano neu rhyw weithgaredd, oeddet ti'n gallu ei gweld hi'n rhyw fath o siarad â hi ei hunan. O'n i'n meddwl bod Mam pawb yn 'neud hyn, ond dwi'n cofio fy mrawd yn gofyn, "Mam, pam wyt ti'n gweddïo trwy'r amser?"
Hwnna oedd ei hamser sbâr hi, a roedd hi'n defnyddio'r amser mewn ffordd gynhyrchiol i ymarfer llinellau a llunio cerddi. A dwi'n ffeindio fy hunan yn 'neud 'na nawr, os ydw i mewn lle soft play gyda'r plant, dwi'n meddwl oes modd 'neud rhyw olygfa deledu mas o hyn?
O'n i'n ymwybodol iawn o Mam a Dad fel ymgyrchwyr pan o'n i'n tyfu lan. Roedd yn eitha' cyffredin yn ein tŷ ni bod Mam yn cael ei arestio am ymgyrchu gyda Cymdeithas yr Iaith. Fel merch yn fy arddegau, o'n i bach yn bored bod fy mam unwaith eto yn methu dod i rhyw gyngerdd ysgol achos ei bod hi wedi cael ei arestio. Ond achos yr holl ymgyrchoedd yna, o'n i'n hyderus iawn yn fy Nghymreictod.
Aeth Dad, oedd yn gadeirydd Cymdeithas yr Iaith ar y pryd, i'r carchar am chwe mis pan o'n i'n fach. Dwi'n edrych nôl a meddwl am Mam yn magu plentyn ar ei phen ei hunan am gyfnod. Ond fe aeth e i'r carchar dros yr iaith a dros S4C, a nawr mod i'n sgwennu i S4C ac yn byw yn y byd yma, dwi'n teimlo bod y cylch mewn ffordd yn gyflawn.
'Mamo' mae fy mhlant yn galw fy mam, ac er ei bod hi'n fam-gu, rydyn ni'n trio ffeindio amser mam a merch yn ogystal ag amser Mamo a'r wyrion. Os oes gen i ddiwrnod lle dwi ddim yn gweithio, a'r plant yn yr ysgol, alla i fynd draw ati a chael paned a chlonc am waith a sgwennu a bach o bopeth. Ma' hwnna'n brofiad hyfryd. Ni'n agos iawn fel mam a merch.
Wrth edrych ar ei gyrfa nawr, fi'n sylweddoli pa mor gynhyrchiol mae hi wedi bod, ac mae hynny yn fy llorio i, ac mae'n fy ysbrydoli i i sgwennu mwy.
Menna Elfyn: "Mae hi'n mwynhau cwmni, chwerthin ac ymwneud â phobl, sy'n wahanol iawn i fi."
Hunanfeddiannol yw'r ffordd orau i ddisgrifio Fflur. A byrlymus. Creu a darllen oedd ei phethe pan oedd hi'n fach. Bydden i'n prynu llyfr yn y prynhawn a bydde hi wedi ei orffen cyn mynd i'r gwely!
'Sai'n synnu bod Fflur wedi mynd i mewn i fyd sgriptio teledu achos oedd hi'n sgrifennu dramâu bach pan oedd hi'n blentyn - ac mi oedd hi'n gorfod cyfarwyddo hefyd wrth gwrs!
Roedd hi a'i brawd yn lico creu rhyw fyd tu nôl i'r soffa. Do'dd dim angen teganau ac roedd yn gas ganddi ddoliau.
Roedd y cyfnod pan oedd Fflur yn fach yn arbennig o heriol, achos roedd Wynford y gŵr yn y carchar, tua'r un pryd â phan oedd Fflur yn cael triniaeth yn yr ysbyty. Felly o garchar i ysbyty oedd hi'n aml bryd hynny.
O'n i'n codi yn gynnar er mwyn ysgrifennu cyn bod y plant yn codi, roedd e'n gyfnod llawn digwyddiadau ac yn amser hapus. Roedd Fflur yn ferch mor llawen ac yn derbyn unrhyw beth oedd yn digwydd iddi bryd hynny.
Roedd y 1970au yn gyfnod eitha' unig o ran merched yn sgrifennu. Ro'n i'n trefnu'r teithiau barddol cyntaf oherwydd mod i'n ferch, o'n i eisiau dangos bod beirdd o ferched hefyd yn gallu bod yn weladwy. Agwedd sosialaidd iawn oedd gen i at fod yn fardd bryd hynny, ro'n i'n credu mewn bod yn gyfartal.
Roedd Fflur yn ferch academaidd iawn, yn dod adre o'r ysgol ac yn mynd yn syth at ei gwaith. Ond roedd hi hefyd yn mwynhau bywyd. Dwi'n cofio cyfnod Lefel A, oedd hi'n gweithio'n galed ond doedd hi byth yn colli mynd mas ar nos Sadwrn.
Dyw hi ddim am golli mas ar fwynhau, a mae hwnna'n dal yn rhan o'i byd hi. Mae hi'n mwynhau cwmni, chwerthin ac ymwneud â phobl, sy'n wahanol iawn i fi; dwi'n mwynhau bod ar ben fy hunan.
Nid dim ond sgwennu oedd yn mynd â'i bryd hi, cerddoriaeth oedd un o'i phrif ddiddordebau. Roedd hi'n chwarae'r piano a'r delyn (bu'n 'bysgo' ar y delyn un haf yn Aberaeron gyda'i ffrind Nia ar y ffliwt!)
Byswn i'n disgrifio ein perthynas ni fel un agos a chariadus. Roedd 'na un cyfnod hyfryd pan o'n i'n gymrawd yn y brifysgol yn Abertawe a Fflur yn ddarlithydd yno. Ro'n ni'n cyd-deithio ac yn cael brecwast gyda'n gilydd ar ôl cyrraedd y coleg. Mae llai o amser gyda ni i eistedd lawr jyst y ddwy ohonon ni erbyn hyn, ond ni'n trio neud ymdrech i gwrdd â'n gilydd yn y dre am goffi ac mae hynny'n neis.
Wi'n falch dros ben bod Fflur yn sgriptio rhaglenni teledu. Fe wnes i fwynhau y gyfres Parch yn fawr, a dwi'n edrych mlaen at ei chyfres nesa' hi hefyd.
Dwi'n meddwl ei bod hi wedi ffeindio ffordd o ysgrifennu sy'n addas iawn ar gyfer y teledu. Ac mae hi'n dal i sgrifennu rhyddiaith yn dawel fach hefyd.