Maes Awyr Caerdydd wedi gwneud colled o £6.6m cyn treth

  • Cyhoeddwyd
Cardiff Airport
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y maes awyr ei brynu gan Lywodraeth Cymru am £52m yn 2013

Fe wnaeth Maes Awyr Caerdydd golled o £6.63m cyn treth y llynedd, yn ôl eu cyfrifon diweddaraf.

Mae hynny'n cymharu â cholledion o £5.97m yn y flwyddyn flaenorol, a £4.9m yn 2015/16.

Dywedodd Llywodraeth Cymru, sy'n berchen y maes awyr, fod perfformiad y cwmni wedi gwella mewn rhai meysydd, gydag incwm yn cynyddu o £16.7m i £17.9m.

Yn ôl cadeirydd y bwrdd, Roger Lewis, roedd y flwyddyn yn un cyfnewidiol, gyda buddsoddiad sylweddol yn cael ei wneud.

Fe wnaeth Llywodraeth Cymru brynu Maes Awyr Caerdydd am £52m yn 2013.

Yn ystod blwyddyn ariannol 2017/18 fe wnaeth y llywodraeth roi £6m i'r maes awyr mewn cyfnewid am gyfranddaliadau, a benthyciad o £5m.

Mae'r maes awyr nawr arno gyfanswm o £30.6m i Lywodraeth Cymru, sy'n cynnwys benthyciad dros 20 mlynedd.

Ychwanegodd Mr Lewis: "Mae hon wedi bod yn flwyddyn bwysig a chyfnewidiol i Faes Awyr Caerdydd.

"Rydym wedi cyflawni twf sylweddol yn niferoedd teithwyr ac rydym wedi cryfhau ein perfformiad ariannol... Ar ôl dweud hynny, rydym yn cydnabod fod yna dal yn llawer mwy i'w wneud."