Joe Rodon yn cymryd lle Paul Dummett yng ngharfan Cymru

  • Cyhoeddwyd
Joe RodonFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Joe Rodon wedi dechrau pum gêm gynghrair i Abertawe y tymor yma

Mae chwaraewr Abertawe, Joe Rodon wedi cael ei alw i garfan Cymru ar gyfer y gemau yn erbyn Sbaen a Gweriniaeth Iwerddon.

Mae'r amddiffynnwr 20 oed yn cymryd lle Paul Dummett, sydd wedi'i anafu.

Bydd Cymru'n croesawu Sbaen i Stadiwm Principality ddydd Iau, cyn teithio i Ddulyn i herio'r Weriniaeth yn Nulyn nos Fawrth.

Roedd Rodon yn rhan o dîm yr Elyrch wrth iddyn nhw gael eu trechu gan Ipswich ddydd Sadwrn.

Dywedodd rheolwr y tîm cenedlaethol, Ryan Giggs bod Rodon yn agos at gael ei enwi yn y garfan yn y lle cyntaf, a'i fod yn "hapus gyda'i ddatblygiad".

Paul DummettFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Joe Rodon yn cymryd lle Paul Dummett yn y garfan

line

Y garfan yn llawn:

Wayne Hennessey (Crystal Palace), Danny Ward (Caerlŷr), Adam Davies (Barnsley).

Ashley Williams (Stoke City, ar fenthyg o Everton), James Chester (Aston Villa), Ben Davies (Tottenham Hotspur), Chris Gunter (Reading), Connor Roberts (Abertawe), Christopher Mepham (Brentford), Jazz Richards (Caerdydd), Ethan Ampadu (Chelsea), Joe Rodon (Abertawe), Declan John (Abertawe).

Joe Allen (Stoke City), Aaron Ramsey (Arsenal), Andy King (Caerlŷr), David Brooks (Bournemouth), Matthew Smith (FC Twente, ar fenthyg o Manchester City).

Gareth Bale (Real Madrid), Ben Woodburn (Sheffield United, ar fenthyg o Lerpwl), Harry Wilson (Derby County), Tom Lawrence (Derby County), Sam Vokes (Burnley), George Thomas (Scunthorpe United, ar fenthyg o Gaerlŷr), Tyler Roberts (Leeds United).