Galw am wneud mwy i atal taro anifeiliaid yng Ngŵyr
- Cyhoeddwyd
Mae ffermwyr yn mynnu bod angen gweithredu i atal anifeiliaid rhag cael eu taro a'u lladd gan gerbydau ar benrhyn Gŵyr.
Mae rhai'n dweud bod cannoedd o anifeiliaid wedi cael eu colli ar ffordd yr A4118 dros y blynyddoedd.
Cafodd y terfyn cyflymder ei ostwng i 40mya ddwy flynedd yn ôl, ond mae ymgyrchwyr yn mynnu nad yw hynny'n ddigon.
Dywedodd Terry Davies, sy'n cadw anifeiliaid yn yr ardal: "Mae pobl yn meddwl gan fod yr anifeiliaid mas 'na, eu bod nhw'n ddiwerth, ond dyna fywoliaeth ffermwr."
'Dim trugaredd'
Dywedodd Samantha Hughes ei bod wedi gweld car yn taro ebol ar y ffordd yn y nos, cyn iddo yrru i ffwrdd.
Cafodd fideo o'r digwyddiad ei roi i'r heddlu, ond ni chafodd unrhyw un ei arestio na'i erlyn.
"Roeddwn i'n gallu gweld car yn goryrru o'm mlaen i ac fe darodd yr ebol oedd yn sefyll ar ochr y ffordd ar gyflymder," meddai Ms Hughes.
"Wnaethon nhw ddangos dim trugaredd, dim ond ei daro ac yna gyrru i ffwrdd."
Ebol Mr Davies oedd hwn, a dyma oedd y trydydd tro mewn 18 mis i un o'i anifeiliaid orfod cael eu difa ar ôl cael eu taro gan gerbyd.
"Mae pobl yn meddwl nad oes unrhyw yn berchen ar yr anifeiliaid, ond maen nhw'n ferlod gwerthfawr," meddai.
"A'r defaid a'r gwartheg yw bywyd ffermwr. Mae'r cyhoedd yn eu taro nhw ac yn cymryd bywoliaeth ffermwyr oddi arnynt."
'Ffyrdd peryglus'
Fe wnaeth Cyngor Abertawe ostwng y terfyn cyflymder yn yr ardal i 40mya yn 2016 ar ôl i bryderon gael eu codi am anifeiliaid yn cael eu taro.
Ychwanegodd llefarydd ar ran y cyngor eu bod yn "annog gyrwyr i yrru'n gyfrifol wrth deithio trwy dir comin fel Gŵyr."
Mae ymgyrchwyr wedi sefydlu deiseb yn galw am fwy o arwyddion yn hysbysu gyrwyr am yr anifeiliaid a gosod camerâu cyflymder yn yr ardal.
Dywedodd Naomi James, sydd wedi dechrau'r ddeiseb, eu bod yn "ffyrdd peryglus".
"Dyw pobl ddim yn cymryd llawer o sylw o'r terfyn cyflymder am fod yr arwyddion wedi'u paentio ar y ffordd," meddai.