Porthladd Mostyn ar restr fer i ddenu 1,000 o swyddi

  • Cyhoeddwyd
Talgo trainsFfynhonnell y llun, Talgo
Disgrifiad o’r llun,

Mae trenau Talgo yn cael eu defnyddio mewn 28 gwlad

Mae porthladd Mostyn yn Sir y Fflint yn un o'r safleoedd y mae cwmni cynhyrchu trenau Talgo yn ei ystyried ar gyfer sefydlu eu canolfan gyntaf yn y DU.

Fe allai'r cwmni o Sbaen greu 1,000 o swyddi.

Bydd yn cystadlu â phum lleoliad arall - tri yn Lloegr a dau yn Yr Alban ac y mae disgwyl penderfyniad fis nesaf.

Dywed Talgo y gallai'r ardaloedd dan sylw elwa hyd yn oed os yw eu cais yn aflwyddiannus.

Mae'r cwmni yn arbenigo mewn cynllunio, cynhyrchu a rhoi gwasanaeth i drenau ysgafn cyflym ac yn gweithredu mewn 28 gwlad gan gynnwys Yr Almaen, UDA a Saudi Arabia.

Bwriad Talgo yw cynhyrchu cerbydau cyfan yn eu safle yn y DU yn hytrach na mewnforio rhannau ac yna adeiladu'r cerbydau.

Profiad cynhyrchu

Mae'r cwmni ar restr fer HS2 - y cynllun trenau cyflym trwy ganol Lloegr - ond mae hefyd yn cynllunio i gynhyrchu trenau i'w hallforio i farchnadoedd tramor.

Fe ddechreuodd y broses o ddod o hyd i safle 18 mis yn ôl ac mae cwmni Talgo wedi bod yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru a phorthladd Mostyn.

Ymhlith y safleoedd eraill sy'n cael eu hystyried mae St Helens, Leeds a Chesterfield yn Lloegr, a Hunterston a Longannet yn Fife yn Yr Alban.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Economi Ken Skates y gallai gogledd-ddwyrain Cymru "gynnig llawer" i gwmni Talgo o ystyried y profiad cynhyrchu a'r sgiliau sydd yn yr ardal.

"Mae'n mynd i fod yn ras agos gyda gwobr o 1,000 o swyddi ond rwy'n hyderus y bydd Talgo yn gwneud y penderfyniad iawn ac yn dewis gogledd-ddwyrain Cymru a Mostyn fel man i sefydlu eu canolfan yn y DU."