Llai o fyfyrwyr Cymru'n astudio ieithoedd modern

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Elin Arfon, myfyrwraig o Brifysgol Caerdydd, yn siarad gyda disgyblion o Ysgol Plasmawr yng Nghaerdydd am ieithoedd

Mae yna ostyngiad pellach wedi bod yn nifer y myfyrwyr o Gymru sydd wedi dechrau cyrsiau ieithoedd modern yn y brifysgol, yn ôl ffigyrau'r gwasanaeth mynediad UCAS.

Roedd cyfanswm y rhai oedd wedi eu gosod ar gyrsiau lle'r oedd iaith yn brif bwnc wedi gostwng traean ers yr un amser llynedd.

Mae Prifysgol Caerdydd wedi bod yn gweithio gydag ysgolion i annog mwy o ddisgyblion i astudio pynciau fel Ffrangeg.

Dywedodd academydd yn y brifysgol bod yna "batrwm pryderus" o ysgolion yn gostwng opsiynau iaith.

Mae ffigyrau UCAS yn dangos bod 80 myfyriwr o Gymru wedi sicrhau llefydd ar gyrsiau ieithoedd a llenyddiaeth Ewropeaidd, lawr o 120 yr amser yma llynedd.

Yn 2009, dangosodd yr un ffigurau bod 180 myfyriwr o Gymru yn gwneud cyrsiau iaith.

Dywedodd yr Athro Claire Gorrara o Brifysgol Caerdydd bod sawl ffactor yn gyfrifol am ostyngiad dros y blynyddoedd, gan gynnwys mwy o bwyslais mewn ysgolion ar bynciau Mathemateg a Gwyddoniaeth a theimlad ehangach bod "Saesneg yn ddigonol i symud ymlaen yn y byd".

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Yr Athro Claire Gorrara o Brifysgol Caerdydd bod yna "batrwm pryderus" o ysgolion yn gostwng opsiynau iaith

"Rydyn ni'n gweld patrwm pryderus o ysgolion yn gostwng yr hyn maen nhw'n ei gynnig - felly o bosib ar ôl cael dwy iaith dramor maen nhw'n gostwng i un ac wrth gwrs mae hynny'n cael effaith ar agweddau pobl ifanc tuag at werth y pwnc," meddai'r Athro Gorrara.

"Mae gennym ni rai ysgolion ble mae'r uwch-dîm rheoli yn gofyn am nifer penodol o fyfyrwyr er mwyn rhedeg y cwrs ac mewn rhai ysgolion does 'na ddim dosbarth iaith fodern TGAU," meddai.

"Yr her i ni yw cynnal amrywiaeth yr ieithoedd ac annog ysgolion i fuddsoddi yn beth allai ymddangos iddyn nhw yn bwnc gwirfoddol."

Mae Prifysgol Caerdydd yn cynnal digwyddiad gyda Phrifysgol Rhydychen i annog disgyblion i barhau gydag ieithoedd ar ôl TGAU.

Un o'r rheiny fydd yn siarad gyda'r disgyblion yw Callum Davies o Dreorci.

Ar ôl astudio Cymraeg a Ffrangeg ym Mhrifysgol Caerdydd cafodd swydd gyda Chlwb Pêl-droed Dinas Caerdydd ble mae'n helpu'r chwaraewyr sy'n siarad Ffrangeg i gyfarwyddo gyda'r clwb a'r ardal.

Disgrifiad,

Callum Davies: 'Dwi'n siarad Ffrangeg bob dydd'

"Dwi'n siarad Ffrangeg bob dydd," meddai, "mae llawer o chwaraewyr sy'n dod o Ffrainc yn chwarae yma. Dwi'n cyfieithu ar gyfer cyfarfodydd tîm ac yn y blaen.

"Mae dysgu iaith arall wedi fy nghaniatáu i i ddilyn gyrfa nad o'n i'n meddwl fydde'n bosib."

Dywedodd ei bod hi'n "biti mawr" nad oes mwy o bobl ifanc yn troi at ieithoedd gan ei fod wedi ei wneud yn fwy "meddwl agored" am ddiwylliannau eraill.

Mae myfyrwyr o Brifysgol Caerdydd wedi bod yn mentora disgyblion mewn ysgolion cyn iddyn nhw ddewis pynciau TGAU.

Mae Ysgol Plasmawr yn dysgu Ffrangeg a Sbaeneg bob yn ail flwyddyn i blant hynaf ysgolion cynradd yr ardal.

"Mae'r plant yn cyrraedd yn barod gyda rhywfaint o Ffrangeg neu Sbaeneg ac felly mae plant Blwyddyn 7 yn amlwg gyda lot fwy o ddiddordeb mewn ieithoedd tramor ac yn ffeindio fe'n haws i ddysgu ac yn gweld dysgu lot yn fwy o hwyl hefyd", meddai Tomos Rees, pennaeth ieithoedd yr ysgol.

'Gwneud yn iawn am y diffyg mewn ysgolion'

Ers 2009, mae nifer y cofrestriadau TGAU mewn Ffrangeg wedi haneru, mae Almaeneg bron i ddau draean yn is a Sbaeneg lawr 18%.

Mae cofrestriadau Ffrangeg ac Almaeneg Safon Uwch wedi gostwng dros 65% dros yr un cyfnod, a chofrestriadau Sbaeneg wedi haneru.

Ym Mhrifysgol Caerdydd mae yna gyrsiau gradd yn cael eu cynnig i fyfyrwyr heb unrhyw gymwysterau iaith - a hynny wedi helpu gyda recriwtio i'r adran meddai'r Athro Gorrara.

"Rydyn ni'n cymryd myfyrwyr nawr sydd heb Safon Uwch iaith ac efallai ddim hyd yn oed â TGAU ond sydd a gallu, uchelgais ac egni am ieithoedd," meddai.

"Felly beth ry'n ni'n gwneud yw gwneud yn iawn am ddiffyg ieithoedd mewn ysgolion gan gymryd pobl ifanc sydd heb gymhwyster."