Storm Callum: Nifer o rybuddion llifogydd mewn grym

  • Cyhoeddwyd
Afon Nedd
Disgrifiad o’r llun,

Mae Afon Nedd yn uchel ac mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot wedi cynghori trigolion i adael eu tai

Mae trigolion wedi cael eu cynghori i adael 29 o dai yn Ochr y Gamlas, Aberdulais wrth i lefelau Afon Nedd godi o ganlyniad i Storm Callum.

Mae'r glaw a gwyntoedd wedi achosi trafferthion yng Nghymru yn dilyn rhybuddion oren a melyn gan y Swyddfa Dywydd am ddydd Gwener.

Cafodd Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru eu galw i gynorthwyo gyda thrên aeth yn sownd mewn llifogydd ger Penrhiwceiber yng Nghwm Cynon toc wedi 15:30 brynhawn Gwener.

Cafodd 30 o deithwyr eu cludo oddi ar y trên, ond ni fydd trenau'n rhedeg ar y lein tan o leiaf hanner dydd ddydd Sadwrn.

Hefyd mae dros 5,500 o bobl heb gyflenwad trydan - dros 3,000 o gwsmeriaid Western Power Distribution a 2,500 o gwsmeriaid Scottish Power.

Mae bellach nifer o rybuddion am lifogydd gan Gyfoeth Naturiol Cymru, dolen allanol (CNC) mewn grym ar hyd de-orllewin Cymru, a dros 25 rhybudd i fod yn barod ar hyd y wlad.

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i achub pobl oedd ar drên aeth yn sownd ger Penrhiwceibr

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y llun yma ei gymryd o'r trên ger Penrhiwceibr

Mae'r rhybuddion melyn am wyntoedd cryfion a glaw trwm ledled y wlad, a'r rhybudd oren am law trwm eithriadol dros rannau helaeth o'r de.

Mae'r rhybudd oren am law trwm mewn grym o 06:00 ddydd Gwener tan 18:00 ddydd Sadwrn, ac mae'r rhybuddion melyn yn weithredol rhwng 05:00 ddydd Gwener a hanner nos ddydd Sadwrn.

Eisoes mae'r tywydd yn achosi oedi i deithwyr.

Am y diweddara' ar y ffyrdd ewch i wefan Traffig Cymru, dolen allanol.

Disgrifiad o’r llun,

Syrthiodd coeden ar ben car newydd Wyn Morris ym Mhenylan, Caerdydd

Roedd disgwyl i 120mm i 160mm o law syrthio yn ne a gorllewin Cymru, gyda rhwng 50mm a 100mm o law ym mannau uchel agored y de a'r de orllewin cyn diwedd y dydd.

Roedd disgwyl gwyntoedd o hyd at 60mya, ond mae Capel Curig eisoes wedi cofnodi hyrddiad gwynt o 72mya fore Gwener.

Mae nifer o gartrefi ar hyd de Cymru wedi bod heb drydan bore Gwener, gyda Chastell-nedd Port Talbot, Sir Gaerfyrddin, Abertawe ac Ynys Môn ymysg yr ardaloedd sydd wedi'i heffeithio.

Roedd rhaid i Ysgol Bryngwran ar Ynys Môn gau oherwydd diffyg cyflenwad trydan.

Ffynhonnell y llun, Met Office
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r rhybudd oren yn effeithio ar rannau helaeth o dde Cymru

Mae Trenau Arriva Cymru eisoes wedi cyhoeddi eu bod yn rhedeg amserlen gyfyngedig o ganlyniad i'r rhybuddion tywydd.

Bydd y llinellau rhwng Abertawe a Chaerfyrddin, Machynlleth a'r Drenewydd a Chyffordd Llandudno a Blaenau Ffestiyniog yn cael eu cau am gyfnodau yn ystod y penwythnos, ac mae teithwyr yn cael eu hannog i wirio gwefan Trenau Arriva Cymru, dolen allanol cyn teithio.

Mae Irish Ferries hefyd wedi canslo teithiau rhwng Caergybi a Dulyn ac mae teithiau Stena Line o Abergwaun i Rosslare hefyd wedi eu canslo.

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru yn annog gyrwyr i beidio gyrru drwy ddŵr llonydd.

Am y wybodaeth ddiweddaraf am rybuddion tywydd, llifogydd a theithio yn eich ardal chi, ewch i'r gwefannau yma:

Disgrifiad o’r llun,

Coeden wedi disgyn ar y ffordd yn Cosheston, Sir Benfro

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi cyhoeddi bod eu timau ymateb i argyfwng yn paratoi ar gyfer llifogydd ac wedi rhybuddio bod yr amodau tywydd ar y môr hefyd yn debygol o achosi llifogydd ger y glannau, gyda thonnau mawr, gwyntoedd cryfion ac ymchwydd y tonnau.

Dywedodd Gary White, Rheolwr Tactegol ar Ddyletswydd CNC, bod eu timau yn gweithio'n galed i "leihau risg i'r gymuned" ac annog pobl i gadw'n ddiogel.

Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges twitter gan De Cymru

Caniatáu cynnwys Twitter?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges twitter gan De Cymru

Y diweddaraf

  • Mae Pont Brittania (A55) bellach wedi ailagor i'r ddau gyfeiriad i geir a faniau yn unig.

  • Mae'r A4059 rhwng Cwmbach ac Aberdâr wedi cau i'r ddau gyfeiriad yn sgil llifogydd.

  • Mae'r A465 ar gau i'r ddau gyfeiriad oherwydd llifogydd rhwng cylchdro Rhigos a chylchdro Hirwaun ac yn annhebygol o ailagor tan o leiaf fore Sadwrn.

  • Mae'r A4215 ym Mhowys wedi cau i'r ddau gyfeiriad rhwng Defynnog a Libanus yn sgil llifogydd.

  • Mae yna dagfeydd ar ffordd Caergybi, A5 sydd wedi cau i'r ddau gyfeiriad ar ôl i goeden ddisgyn ar y heol.

  • Dywedodd Heddlu Gogledd Cymru eu bod nhw wedi derbyn galwadau niferus am ddŵr ar wyneb y ffordd a choed sydd wedi disgyn.

  • Mae Pont Hafren A48 ar gau i gyfeiriad y dwyrain oherwydd y gwyntoedd cryf.

  • Mae 160 o gartrefi heb drydan yn ardal Castell-nedd.

  • Dros 180 o gartrefi yng Nghastell Newydd Emlyn heb drydan.