Cymry'n codi £380,000 tuag at apêl Tswnami Indonesia
- Cyhoeddwyd
Mae pobl yng Nghymru wedi codi £380,000 tuag at Apêl Tswnami Indonesia mewn llai nac wythnos, yn ôl Pwyllgor Argyfyngau Cymru.
Lansiwyd yr Apêl ar 4 Hydref yn dilyn daeargryn a tswnami a darodd ynys Sulawesi, Indonesia, gan achosi difrod enbyd.
Bellach mae dros 2,000 o bobl wedi eu cadarnhau yn farw, degau o filoedd o dai wedi eu dinistrio, a phryderon bod dros 5,000 o bobl yn dal ar goll.
Dywedodd Rachel Cable, Cadeirydd DEC Cymru, eu bod yn "hynod ddiolchgar" i bawb sydd wedi cyfrannu, ond bod "llawer mwy o waith eto i'w wneud".
Yn gyfan gwbl, mae Apêl Tswnami Indonesia'r DEC ledled Prydain wedi codi dros £12 miliwn.
Ers y lansiad, mae arweinwyr prif bleidiau gwleidyddol Cymru, Carwyn Jones AC, Paul Davies AC ac Adam Price, wedi dangos eu cefnogaeth ac wedi galw ar y Cymry i roi at yr achos.
Esboniodd Rachel Cable, Cadeirydd DEC Cymru sut mae'r arian o Gymru eisoes yn cael ei wario yn Indonesia ond bod llawer mwy o waith eto i'w wneud.
Meddai Ms Cable: "Gall isadeiledd sydd wedi ei ddifrodi, amodau brwnt a diffyg dŵr glân achosi heintiau fel dolur rhydd a allai ladd llawer mwy na wnaeth y tswnami yn y lle cyntaf.
"Dim ond megis dechrau mae ein gwaith yn Sulawesi, ac er bod yr arian sydd wedi ei godi yng Nghymru eisoes wedi ein galluogi i wella glanweithdra dŵr, dosbarthu pecynnau glendid, darparu bwyd a meddyginiaethau a chodi lloches, mae dal angen mwy o gefnogaeth."
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
'Achub bywydau'
Mae Karisa Amanda, aelod o Sefydliad Myfyrwyr Indonesia yng Nghymru sy'n fyfyrwraig ym Mhrifysgol Caerdydd hefyd wedi diolch i bobl Cymru am eu haelioni.
"Diolch yn fawr iawn i bawb sydd wedi cyfrannu at yr Apêl. Mae'n dor-calon i weld ein pobl yn dioddef yn sgil y dinistr yma, yn enwedig gan ein bod mor bell o gartref ar hyn o bryd," meddai.
"Os nad ydych wedi cyfrannu yn barod plîs gwnewch. Rydym yn gwybod bod y cymorth yn cyrraedd ein ffrindiau a'n teulu ac mae'n gwneud gwahaniaeth mawr. Mae'n achub bywydau."