Cynllun Nofio am Ddim 'ddim yn addas i bwrpas'

  • Cyhoeddwyd
Dynes yn nofio

Mae angen newid sylfaenol i'r rhaglen sy'n annog nofio ymhlith pobl ifanc ac oedrannus yng Nghymru, yn ôl adroddiad i'r corff sy'n gyfrifol am ei rhedeg.

Ers 2003, mae'r cynllun Nofio am Ddim yn cynnig sesiynau ar adegau penodol o'r wythnos i blant a phobl ifanc a phobl dros 60 oed.

Mae'n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru a'i redeg ers 2005 gan gorff Chwaraeon Cymru, ond yn ôl adroddiad newydd, dydy'r cynllun yn ei ffurf bresennol "ddim yn addas i bwrpas".

Dywedodd Chwaraeon Cymru eu bod nhw'n gobeithio cynnal lefel y cyllid i'w wario yn y cymunedau, ond y gallai peth o'r arian gael ei wario ar gampau eraill yn y dyfodol.

'Ffrwd incwm' i gynghorau

Mae'r ddogfen gan gwmni UK Research and Consultancy Services Ltd yn dweud bod y rhaglen wedi bod yn llwyddiant yn y blynyddoedd cynnar gyda nifer y plant a phobl ifanc yn mynd i sesiynau nofio am ddim yn codi o 400,000 i 800,000 yn 2004/05.

Ond erbyn 2016/17 roedd y nifer wedi gostwng i 145,000.

Mae Llywodraeth Cymru'n rhoi £3m y flwyddyn i gyllido'r cynllun, ond yn ôl yr adroddiad fe allai gael ei ddarparu am £1.5m.

Mae'r ddogfen yn ychwanegu: "Nid yw'r buddsoddiad presennol yn rhaglen Nofio am Ddim yn cynrychioli'r elw gorau ar fuddsoddiad nac yn gwneud y cyfraniad mwyaf at gynyddu lefelau gweithgarwch.

"Mae llawer o awdurdodau lleol wedi dod i ddibynnu ar y grantiau fel ffrwd incwm ac mae'n anodd iawn cysylltu'r gwariant gwirioneddol â chanlyniadau a pherfformiad penodol.

"Mae sawl nodwedd graidd o ran sut mae nofio am ddim yn gweithredu yn yr hinsawdd ariannol a'r cyd-destun polisi presennol yn golygu nad yw'n addas i bwrpas mwyach."

Dywedodd Brian Davies o Chwaraeon Cymru: "Roedd yr arian yn cael ei wario ar nofio am ddim. Ac mae'r adroddiad yn deud y dylai gario 'mlaen i gael ei wario ar nofio am ddim - ond nid y cwbl".

Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Brian Davies o Chwaraeon Cymru mae dadl dros ystyried buddsoddi mewn campau eraill yn ogystal â nofio

"O ran y swm cyfan ddylen ni edrych ar amryw o fuddsoddiadau yn y campau eraill hefyd," meddai Mr Davies.

"Yn syml iawn, 'dwi'm yn credu y gall newid yn syfrdanol."

"Y peth pwysig i ni yw cadw'r arian yn y campau, yn yr awdurdodau lleol, yn gweithio gyda'r partneriaid sydd gyda ni... yn gwneud lles i bobl ifanc a'u cadw'n heini."

Opsiynau

Mae tri opsiwn ar gyfer newid yn cael eu cynnig gan awduron yr adroddiad:

  • Opsiwn A - cadw'r cynllun fel ag y mae, ond gwella'r atebolrwydd;

  • Opsiwn B - targedu grwpiau newydd, gan gadw'r pwyslais ar nofio - ond hefyd cynnwys gweithgareddau chwaraeon a hamdden newydd i hyrwyddo lles;

  • Opsiwn C - newid pwyslais i gynnwys ystod eang o weithgareddau hamdden a pheidio rhoi blaenoriaeth i nofio.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae nofio am ddim yn bolisi pwysig sy'n greiddiol i'r uchelgais o greu Cymru iachach.

"Rydym yn edrych ymlaen at dderbyn argymhellion Chwaraeon Cymru i gryfhau'r ddarpariaeth."

Dywedodd y corff sy'n cynrychioli cynghorau sir, Cymdeithas Awdurdodau Lleol Cymru, y "byddai unrhyw doriadau neu newid i'r arian grant ar gyfer nofio am ddim, ni waeth ba mor fychan, yn sicr yn effeithio ar y ddarpariaeth."