Chwaraeon Cymru i drafod dyfodol cynllun nofio am ddim
- Cyhoeddwyd
Mae'r corff sy'n goruchwylio chwaraeon ar lawr gwlad yng Nghymru yn adolygu'r cynllun sy'n caniatáu i blant a phobl mewn oed gael nofio am ddim.
Mae Chwaraeon Cymru hefyd yn cynnal adolygiad ar wahân i'w rhaglen sy'n annog chwaraeon ymysg disgyblion ysgol.
Mae grant o £3.5m gan Lywodraeth Cymru, sy'n cael ei reoli gan Chwaraeon Cymru, yn galluogi plant dan 16 a phobl dros 60 i gael mynediad am ddim i byllau nofio cyhoeddus ar adegau penodol, megis gwyliau ysgol a phenwythnosau.
Ond awdurdodau lleol sy'n darparu'r gwasanaeth, a hynny mewn ffyrdd gwahanol gan fod cynghorau mewn ardaloedd mwy difreintiedig yn cael mwy o arian.
Daw'r penderfyniad gan Chwaraeon Cymru yn dilyn adolygiad annibynnol y llynedd, yn galw arnynt i gymryd camau ar unwaith i wella'u perfformiad.
Cyllideb o £40m
Mae gan y sefydliad gyllideb flynyddol o £40m, mae tua hanner yn dod gan Lywodraeth Cymru a'r hanner arall o'r Loteri Genedlaethol.
Yn 2016, cafodd gweithgareddau bwrdd rheoli Chwaraeon Cymru eu hatal gan Lywodraeth Cymru oherwydd pryderon.
Cafodd y cyn-gadeirydd, Paul Thomas a'r is-gadeirydd Adele Baumgardt, eu diswyddo gan weinidogion ym mis Mawrth y llynedd ar ôl "i'r berthynas rhwng y sefydliadau dorri i lawr".
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Byddwn yn cyfrannu at adolygiad Chwaraeon Cymru ar y cynllun nofio am ddim, ac yn edrych ymlaen at dderbyn eu hadroddiad maes o law."
Dywedodd llefarydd ar ran Chwaraeon Cymru: "Mae gan Chwaraeon Cymru, fel sefydliadau eraill yn y sector cyhoeddus, adnoddau sy'n lleihau.
"Bydd angen i ni sicrhau bod gan y ddarpariaeth ddyfodol a gwell lefel o gynaliadwyedd.
"Rydym am wybod a yw'r rhaglenni wedi cyflawni eu canlyniadau penodol ar gyfer plant a phobl ifanc pan gyflwynwyd hwy am y tro cyntaf (neu ers iddynt gael eu diwygio), a ph'un ai y gallant gael mwy o effaith ar lefelau cyfranogiad chwaraeon a gweithgaredd corfforol."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Gorffennaf 2017