Cyngor Gwynedd ar ei hôl hi gydag archwiliadau hylendid

  • Cyhoeddwyd
bwyd

Mae Cyngor Gwynedd yn apelio ar Lywodraeth Cymru i roi mwy o arian iddynt i alluogi mwy o archwiliadau hylendid a safonau bwyd gael eu cynnal, er diogelwch y cyhoedd.

Mae'r cyngor cymaint ar ei hôl hi o ran cynnal archwiliadau, mae disgwyl iddynt orfod treulio tair blynedd cyn dod i ben â'r holl archwiliadau sydd ganddynt i'w gwneud.

Ym mis Gorffennaf, rhyddhaodd cabinet Cyngor Gwynedd £70,000 i gyflogi staff i gynorthwyo gyda chynnal archwiliadau hylendid a safonau bwyd, wedi iddynt gyfaddef nad oedd archwiliadau yn cael eu cynnal yn ddigon aml.

Dangosodd adroddiad a gafodd ei gyflwyno i Bwyllgor Cyd-graffu Cymunedau bod 290 o archwiliadau dal heb eu cynnal, er y dylent fod wedi cael eu cwblhau cyn mis Mawrth 2018.

Ond hyd yn oed os ydy'r cyngor yn llwyddo i gyflogi dau aelod arall o staff, ni fydd modd lleihau'r llwyth gwaith yn gyfan gwbl tan 2021.

Gweld effaith toriadau

Yn ôl adroddiad archwilio gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd (FSA) yn 2016, roedd pryderon am allu'r cyngor i sicrhau safonau hylendid bwyd ar hyd y sir, gan grybwyll problemau gyda niferoedd staff yn sgil toriadau.

Dywedodd y Cynghorydd Steve Churchman mewn cyfarfod yng Nghaernarfon ddydd Iau: "Mae'n dda gweld rhywfaint o ddatblygiad ond rwy'n dal i bryderu ei bod hi wedi cymryd dwy flynedd a hanner i ddelio gyda'r mater.

"Mae 20 argymhelliad sy'n dal i alw am waith, a hoffwn fod wedi gweld mwy o ddatblygiad wrth ddelio gyda'r rheini.

"Rydym bellach yn gweld effaith y toriadau cafodd eu gwneud, ac mae'n awgrymu i mi fod y system yn colli adnoddau ac nad yw'n gallu gweithredu."

Tarddle'r arian ychwanegol?

Cafodd oddeutu 20 swydd eu colli yng ngwasanaeth amddiffyn y cyhoedd y cyngor yn ystod y chwe blynedd ddiwethaf, sydd gyfystyr â 32% o doriad, gan adlewyrchu amcanion "Her Gwynedd" o weld toriadau o'r fath yn sgil llai o incwm oddi wrth y llywodraeth.

Ond er bod awgrym y dylai'r cyngor sicrhau bod mwy o adnoddau yn cael eu rhoi i gynorthwyo gyda'r gwaith o gynnal archwiliadau hylendid a safonau bwyd, dywedodd y Cynghorydd Gruff Williams y byddai rhoi mwy o arian i'r gwasanaethau hynny'n tynnu oddi ar wasanaethau eraill.

"Mae'n glir nad ydym yn gallu rhedeg y cyngor gyda'r cyllid sydd gennym," meddai.

"O ble gawn ni'r arian ychwanegol? Yr unig ateb yw'r llywodraeth."

Bydd safbwyntiau'r pwyllgor yn cael eu trafod gan y cabinet maes o law.