Cyngor Gwynedd: bwriadu gwario £70,000 ar staff hylendid bwyd
- Cyhoeddwyd
Mae Cyngor Gwynedd yn bwriadu gwario £70,000 ar gyflogi mwy o staff i ymdrin â hylendid bwyd yn y sir.
Mae'r cyngor wedi dod dan y lach yn dilyn adroddiad gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd (FSA).
Roedd yr adroddiad yn awgrymu bod toriadau diweddar wedi "effeithio'n sylweddol" ar allu'r awdurdod i wireddu ei ddyletswydd statudol.
Mae disgwyl i gabinet y cyngor gytuno ddydd Mawrth ar greu dwy swydd newydd o fewn eu gwasanaeth gorfodi cyfraith bwyd.
Cafodd ei amlygu yn yr adroddiad gan yr FSA nad oedd busnesau yn cael eu harchwilio'n ddigon aml.
Mae prinder staff yn y gwasanaeth o fewn Cyngor Gwynedd wedi golygu bod 76 archwiliad safonau bwyd a 220 archwiliad hylendid bwyd heb eu cynnal, yn ôl ffigyrau mis Mehefin.
Dangosodd adroddiad yr FSA fod cyllid a nifer o staff y gwasanaeth gorfodi cyfraith bwyd wedi lleihau a bod hynny wedi "effeithio'n sylweddol" ar safon y gwasanaeth.
Mae Cyngor Gwynedd wedi cydnabod bod toriadau wedi arwain at golli staff a bod y ffigyrau diweddaraf yn "cyfiawnhau'r pryderon" sydd gan yr FSA am berfformiad y gwasanaeth.
Yn sgil yr adroddiad, bydd £70,00 yn mynd i gyflogi swyddog iechyd yr amgylchedd a swyddog yr amgylchedd.