'Diwrnod pwysig i reilffyrdd yng Nghymru'
- Cyhoeddwyd
Wrth i gytundeb newydd gwasanaeth rheilffyrdd Cymru a'r Gororau ddod i rym, dywed Llywodraeth Cymru mai eu nod yw cynnig y gwasanaeth gorau i deithwyr yn y DU o fewn y 15 mlynedd nesaf.
Bydd y Prif Weinidog Carwyn Jones yng ngorsaf Pontypridd ddydd Llun er mwyn nodi yn swyddogol ddiwrnod cyntaf llawn y gwasanaethau rheilffyrdd newydd.
Dywedodd ar y Post Cyntaf bod y cytundeb newydd gyda phartneriaeth KeolisAmey yn sicrhau mwy o hyblygrwydd er mwyn ymateb yn well mewn cyfnodau pan fo mwy o alw gan deithwyr.
Ychwanegodd y byddai'n gwneud yn siŵr bod holl wasanaethau Trafnidiaeth Cymru yn ddwyieithog "cyn gynted â phosib" ar ôl clywed nad yw'r ap Cymraeg yn gweithio a'i fod yn amhosib prynu tocynnau ar-lein yn Gymraeg.
"O'n i ddim yn gw'bod hynny ond wnaf i'n siŵr bo hynna'n newid cyn gynted â phosib," meddai.
"Mae'n hollbwysig bo' gyda ni wasanaeth dwyieithog.
"I glywed bod yr ap Cymraeg ddim ar gael ar hyn o bryd - wel, bydd hwnna'n gorfod ga'l 'i ddatrys yn gloi."
Ymdopi'n well â'r galw
Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ym mis Mai taw KeolisAmey fyddai'n rhedeg gwasanaethau trenau Cymru am y 15 mlynedd nesaf a hynny dan enw Trafnidiaeth Cymru.
Roedd cwmni Trenau Arriva Cymru yn gyfrifol am y gwasanaethau ers 2003 ond fe benderfynodd fis Hydref y llynedd "am resymau masnachol" nad oedd am fod yn rhan o'r broses dendro ar gyfer y 15 mlynedd nesaf.
Dywedodd Mr Jones wrth y Post Cyntaf bod y cytundeb blaenorol wedi ei gynllunio "ar sylfaen bydde dim twf yn nifer y teithwyr trên" ond cynyddu wnaeth y galw yn hytrach.
"Ni wedi adeiladu hwn mewn i'r cynlluniau hyn, ma' 'na ffyrdd i sicrhau bo' mwy o drenau ar gael er mwyn ymdopi gyda'r galw," meddai.
"Bydd 'na 285 mwy o wasanaethau ar draws Cymru bob diwrnod o'r wythnos a hefyd mwy ar ddydd Sul... ar hyn o bryd, mae rhai gwasanaethau ddim yn rhedeg ar ddydd Sul neu mae llai o drenau ar ddydd Sul."
Gobeithio am welliant
Un sy'n falch o weld trefn newydd yng Nghymru am fod y sefyllfa ddiweddar mor "ofnadwy" yw Bethany Powell, sy'n defnyddio trenau'n rheolaidd i deithio rhwng Ystrad Rhondda a Chaerdydd.
"Erbyn i'r trên gyrraedd Porth does dim lle i eistedd, chi fel sardines," meddai. "Gyda'r cwmni newydd 'dwi'n gobeithio bydd mwy o carriages yn cael eu rhoi 'mla'n."
Mae hi hefyd yn gobeithio y bydd trenau'n cadw at eu hamserlenni.
Dywedodd y gohebydd trafnidiaeth, Rhodri Clark: "Mae 'na gyfnod yn mynd i fod lle 'da ni ddim yn mynd i weld lot fawr o newid. Fydd rhaid iddyn nhw ddefnyddio'r hen drenau cyn i drenau newydd ddod i mewn, er enghraifft. ac felly mae'n rhaid i ni beidio disgwyl gormod rhy fuan.
"Fydd y trenau newydd yn ne Cymu yn wahanol iawn achos fyddan nhw'n rhedeg 'efo trydan yn y Cymoedd ac hefyd ar batri, ond hefyd fyddan ni'n ca'l trenau newydd fwy neu lai ar bob llinell bron."
Ychwanegodd bod gwasanaeth newydd rhwng Llandudno a Lerpwl sy'n stopio ym maes awyr Lerpwl "yn rhywbeth i'w groesawu achos mae 'na lot o alw am deithio rhwng y ddau le yna".
'Rheilffyrdd gorau erbyn 2033'
Mae disgwyl i Carwyn Jones ddweud bod y diwrnod hwn "yn bwysig i reilffyrdd yng Nghymru - yn wir ar gyfer datganoli" wrth iddo drafod goblygiadau hanesyddol ac economaidd y cytundeb newydd.
Bydd yn ychwanegu: "O dan arweiniad Trafnidiaeth Cymru, gyda'n partneriaid KeolisAmey, dyma fydd y gwasanaeth rheilffyrdd cyntaf 'wedi'i wneud yng Nghymru', wedi'i gynllunio a'i ddarparu gan Lywodraeth Cymru."
Wrth groesawu KeolisAmey i dderbyn y cytundeb dros reilffyrdd Cymru, dywed Mr Jones: "Mae'r cyfle i ail-gynllunio a gosod pwrpas newydd i'n rhwydwaith rheilffyrdd yng Nghymru yn gyfle a ddaw unwaith mewn oes, a dwi'n hyderus y bydd y gwasanaeth rheilffyrdd gorau i deithwyr yn y DU erbyn 2033.
Bydd hefyd yn cyfeirio at frwdfrydedd staff gan ddweud: "Rydyn ni'n lwcus i gael cynifer o bobl, sy'n dod i weithio i'r gwasanaeth pob diwrnod, ac sydd wir am wella pethau - ac sy'n gweld y posibiliadau i ddatblygu.
"Rydyn ni am ddefnyddio eu syniadau a gwneud ein rheilffyrdd yn esiampl i bawb ledled y byd."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Hydref 2018
- Cyhoeddwyd23 Mai 2018
- Cyhoeddwyd4 Mehefin 2018