Adeiladwr ar droli ysbyty am 18 awr cyn marw

  • Cyhoeddwyd
Llun teulu o Murray Vincent QuartermaineFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Murray Vincent Quartermaine ym mis Rhagfyr 2015

Clywodd cwest bod adeiladwr a oedd yn ddifrifol wael wedi bod yn gorwedd ar droli yn yr ysbyty am 18 awr cyn marw.

Bu farw Murray Vincent Quartermain o Lanymddyfri, a oedd yn 64 oed, yn adran ddamweiniau ac achosion brys Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin.

Yn rhoi dyfarniad naratif, dywedodd crwner Sir Benfro a Sir Gaerfyrddin, Mark Leyton, fod Mr Quartermain wedi marw o sepsis a bod oedi wedi bod cyn cychwyn y driniaeth gywir.

Cafodd y cwest ei gynnal yn dilyn ymgyrch gan deulu Mr Quartermain a oedd yn teimlo nad oedd yr ysbyty wedi trin yr adeiladwr yn iawn.

Fe wnaeth y crwner gydnabod bod methiannau wedi bod ar ran Ysbyty Glangwili.

'Marw mewn urddas'

Dywedodd Josie Quartermain ei bod hi wedi canfod ei thad yn gorwedd ar droli ysbyty yn yr adran ddamweiniau ac achosion brys ddiwrnod ar ôl iddo gael ei gludo yno ar 16 Rhagfyr 2015.

Cafodd wybod yn ddiweddarach ei fod wedi bod yno am 18 awr.

Dywedodd y crwner y byddai'n debygol na fyddai Mr Quartermain wedi goroesi hyd yn oed os byddai wedi derbyn y driniaeth gywir.

Disgrifiad o’r llun,

Teulu Mr Quartermain, gyda'i ferch Josie yn y canol

Yn y gwrandawiad ddydd Iau, dywedodd nyrs fod Mr Quartermain wedi cael ffit epileptig a bod ffroth gwyn yn dod o'i geg cyn iddo farw.

Dywedodd dau ymgynghorydd annibynnol wrth y cwest nad oes ffordd sydyn o drin sepsis.

Mewn datganiad yn dilyn y gwrandawiad, dywedodd Josie Quartermain bod y teulu'n deall bod y gwasanaeth iechyd dan straen, ond fod methiannau'r ysbyty wedi atal Mr Quartermain y "cyfle i gael urddas ar ddiwedd ei fywyd".

Fe ymddiheurodd Bwrdd Iechyd Hywel Dda wrth deulu Mr Quartermain am y loes oedden nhw wedi'i achosi.