Tirlithriad Cwmduad: Enwi'r dyn fu farw

  • Cyhoeddwyd
Corey SharpingFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Corey Sharpling yn un o bedwar o blant

Mae enw dyn ifanc a fu farw mewn tirlithriad yng Nghwmduad yn Sir Gaerfyrddin brynhawn dydd Sadwrn wedi cael ei gyhoeddi.

Roedd Corey Sharpling yn 21 oed ac yn byw yng Nghastellnewydd Emlyn.

Yn ôl Heddlu Dyfed Powys roedd swyddogion yn bresennol ar y pryd pan digwyddodd y tirlithiad a laddodd Mr Sharpling.

Mae ymchwiliad i union amgylchiadau ei farwolaeth yn cael ei gynnal.

Mewn teyrnged, dywedodd ei deulu: "Rydyn ni'n torri'n calonnau ar ôl colli ein mab, Corey.

"Roedd llawer o bobl yn ei adnabod fel bachgen ffraeth, dymunol a oedd yn deyrngar.

"Fe hoffen ni ddiolch i'r gymuned am eu cefnogaeth a hefyd ffrindiau a chyd-weithwyr ym Mhrifysgol y Drindod, Dewi Sant, Caerfyrddin."

Mae swyddogion arbennigol yr heddlu'n cynorthwyo'r teulu wrth i'r heddlu ymchwilio i union amgylchiadau ei farwolaeth.

'Tirlithriad anferth'

Dywedodd yr Arolygydd Chris Neve: "Cafodd swyddogion Heddlu Dyfed Powys eu galw i ffordd yr A484 ger Cwmduad brynhawn dydd Sadwrn yn dilyn adroddiadau fod coeden wedi syrthio ar draws y ffordd.

"Tra roedd swyddogion yn mynd i'r afael â'r rhwystr fe ddigwyddodd tirlithriad anferth, ac o ganlyniad cafodd Corey ei ladd yn y fan a'r lle.

"Rydyn ni'n cydweithio gydag asianaethau eraill er mwyn sicrhau diogelwch y safle i bobl leol a defnyddwyr y ffordd ac rydyn ni'n annog pobl i gadw i ffwrdd o'r safle ar hyn o bryd.

Yn ôl adroddiadau roedd Mr Sharpling ar ei ffordd i'r gwaith ym mwyty McDonalds yng Nghaerfyrddin pan gafodd ei ladd yn y tirlithriad.

Fe gaedodd y bwyty ei drysau dydd Sadwrn ar ôl clywed y newyddion am Mr Sharpling.

"Mae hi'n ddiwrnod trist iawn, iawn i ni fel ei gyflogwyr," perchennog y masnachfraint Ron Mounsey, "ond hefyd i'r staff oedd yn cyd-weithio gydag e."

Dywedodd un person lleol wrth BBC Cymru fod y teulu Sharpling wedi symud i'r pentref ddeg mlynedd yn ôl ac mai Corey oedd y ieuengaf o bedwar o blant.

"Dwi wedi fy nhristáu yn llwyr o glywed yr hyn sydd wedi digwydd", meddai.