Carcharu aelodau o giang 'spice' o Wrecsam
- Cyhoeddwyd
Mae giang cyffuriau oedd yn cyflenwi defnyddwyr y cyffur 'spice' yn Wrecsam wedi eu carcharu am gyfanswm o dros 10 mlynedd.
Cred Heddlu Gogledd Cymru mai'r arweinydd Josh Partyka, 26, a gweddill y grŵp oedd prif gyflenwyr spice yn y dre.
Clywodd Llys y Goron yr Wyddgrug fod y grŵp wedi defnyddio sied ardd yn Rhodfa Churton ar gyfer gwneud y cyffur.
Yn ogystal â defnyddwyr yn Wrecsam clywodd y llys fod Partyka hefyd yn cyflenwi carcharorion yng ngogledd orllewin Lloegr.
Dywedodd y Barnwr Rhys Rowlands fod tre' Wrecsam wedi cael enw drwg wrth i bobl oedd yn gaeth i'r cyffur gerdded o gwmpas canol y dre fel "zombies".
Cafodd Partyka ei garcharu am chwe blynedd. Dedfryd Danny Jones, 20 oed, oedd dwy flynedd mewn uned troseddwyr ifanc gyda Lorna Jones, 26 oed, yn cael dedfryd carchar o ddwy flynedd wedi gohirio. Cafodd James Dunn, 42 oed, ei garcharu am ddwy flynedd ac wyth mis.
Clywodd y rheithgor fod y giang wedi gwerthu cyffuriau gwerth miloedd o bunnoedd, gyda Lorna Jones wedi talu £25,000 i'w chyfrif personol er ei bod yn ddi-waith ac yn derbyn budd-dal.