Maer tref yn Ffrainc yn gwahardd hela wedi marwolaeth

  • Cyhoeddwyd
Marc SuttonFfynhonnell y llun, Facebook

Mae tref yn Alpau Ffrainc wedi gwahardd hela dros dro ar ôl i Gymro gael eu saethu'n farw gan heliwr wrth iddo seiclo ar hyd llwybr beicio mynydd poblogaidd.

Bu farw Marc Sutton, 34 oed o Gaerffili wnos Sadwrn yn ardal Montriond ger y ffin â'r Swistir ac mae ei deulu'n cael cymorth a chyngor gan y Swyddfa Dramor.

Mae dyn 22 oed - aelod o grŵp hela a fu'n rhaid cael triniaeth ysbyty at effeithiau sioc wedi'r digwyddiad - yn cael ei holi ar amheuaeth o ddynladdiad.

Mae un o ffrindiau Mr Sutton wedi croesawu cyhoeddiad maer Montriond ynglŷn â gwahardd hela yn yr ardal dros dro, ond mae'n dweud bod "angen ailedrych ar y cyfreithiau hyn" ymhob rhan o Ffrainc.

"Mae pawb yn dod at ei gilydd i geisio sicrhau nad yw hyn yn digwydd eto, ac rydym yn falch o glywed fod maer Montriond wedi gwahardd hela dros dro," meddai Katie Downs.

'Penderfynol, gweithgar, hael'

Mae ymgyrch ar Facebook yn galw am adolygu cyfreithiau hela ar draws Ffrainc wedi sawl anffawd yn ystod tymor hela - la chasse - eleni.

Mae yna alw am ymestyn ardaloedd lle nad oes hawl i hela o gwbwl ac i ganiatáu hela dim ond ar foreau'r penwythnos.

Hefyd mae'r ymgyrchwyr yn dweud bod angen arwyddion gwell fel bod pobl sy'n dod i ardaloedd Montriond a Morzine i seiclo neu sgïo yn gwybod bod hela yn digwydd yno.

Ffynhonnell y llun, Facebook
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Marc Sutton newydd agor bwyty yn nhref Les Gets

Roedd Mr Sutton yn gogydd ac wedi agor bwyty yn ddiweddar yn nhref Le Gets.

Dywedodd Ms Downs fod yr holl gymuned wedi eu llorio gan y newyddion.

Mae teyrngedau ar Facebook yn ei ddisgrifio fel "person penderfynol, gweithgar, hael ac eithriadol o garedig, oedd yn byw ei fywyd i'r eithaf ac yn treulio gymaint o'i amser â phosib yn y mynyddoedd."

Dywed ffrindiau eu bod yn ceisio "cael cysur o'r ffaith iddo farw tra'n gwneud yr hyn roedd yn caru ei wneud fwyaf".