Prinder menywod ar fyrddau cwmnïau Cymru

  • Cyhoeddwyd
stafell y bwrdd

Mae llai na chwarter o aelodau byrddau 20 o'r busnesau mwyaf yng Nghymru yn fenywod, yn ôl ymchwil gan BBC Cymru.

Dim ond 38 o'r 180 o aelodau'r byrddau dan sylw sy'n fenywod, gyda tua thraean o'r rheiny yn rhai anweithredol.

Doedd dim menywod o gwbl ar fwy na chwarter o'r byrddau dan sylw, gan gynnwys cwmni dur Celsa UK a'r cwmni hylendid PHS.

Dywedodd elusen Chwarae Teg bod gwelliannau wedi digwydd, ond fod angen mwy o fenywod mewn swyddi sy'n gwneud penderfyniadau.

'Annerbyniol'

Yn ôl prif weithredwr Chwarae Teg, Cerys Furlong: "Mae gennym fenywod gwych yn rhedeg busnesau ymhob rhan o Gymru, ac maen sawl diwydiant gwahanol, ond ry'n ni'n gwybod fod problem gyda menywod yn y prif swyddi a'r nifer o fenywod ar fyrddau.

"Mae yna welliannau - yng nghwmnïau'r FTSE 100 mae 29% o swyddi yn cael eu llenwi gan fenywod, ond mae esiamplau o hyd o ddiwydiannau a sectorau lle does dim ond dynion ar y bwrdd.

"Mae hanner cwmnïau gwasanaethau cyhoeddus y DU â dynion yn unig ar y bwrdd - ry'n ni'n credu fod hynny'n annerbyniol."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Cerys Furlong bod angen mwy o fenywod mewn "swyddi dylanwadol sy'n gwneud penderfyniadau"

Cafodd Anne Jessop ei phenodi'n brif weithredwr y Bathdy Brenhinol yn Llantrisant yn gynharach eleni ac mae'r cwmni yn un o ychydig yng Nghymru sydd â bwlch cyflogau sy'n ffafrio menywod.

"Weithiau y rhwystrau yw'r hyn yr ydych chi'n meddwl y gallwch ei gyflawni eich hunan," meddai. "Mae'n bwysig i fod yn hyderus a goresgyn y rheiny."

Mae Ms Jessop yn falch o'r gwaith y mae'r Bathdy wedi ei wneud i hybu gweithio'n hyblyg a chefnogi anghenion eu holl staff.

Ychwanegodd: "Mae pobl yn gwerthfawrogi amrywiaeth a chydnabyddiaeth fod y teulu yn rhan o'ch bywyd.

"Gallwn ni ond fod yn llwyddiannus os ydyn ni'n harneisio amrywiaeth pawb."

Ffynhonnell y llun, Thinkstock
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r bwlch cyflog rhwng dynion a menywod yng Nghymru yn 15%

Roedd Cerys Furlong yn dweud fod y diffyg cydbwysedd yng Nghymru yn arwydd o broblem ehangach.

"Mae gennym broblem gyda'r bwlch cyflog {rhwng dynion a menywod} yn y DU, ac mae'n 15% yng Nghymru," meddai.

"Hyd nes y bydd menywod yn swyddi dylanwadol sy'n gwneud penderfyniadau yn ein sefydliadau, yna ni welwn ni'r newidiadau yr ydym am eu gweld."