Galw am ailgodi pont reilffordd yn Llangefni
- Cyhoeddwyd
Mae cynghorwyr lleol yn Llangefni wedi dweud y dylid ailadeiladu pont reilffordd yn y dref yn dilyn damwain yno ddydd Gwener.
Cafodd y bont ei ddymchwel yn dilyn damwain â lori. Mae ofnau yn lleol y gallai'r digwyddiad beryglu cynllun i ailagor gorsaf drenau Llangefni a'r lein ar draws Ynys Môn.
Dywedodd y cynghorydd Dylan Rees wrth raglen y post Cyntaf ar BBC Radio Cymru: "Er mwyn adfywio Llangefni mae ailagor yr orsaf a'r lein yn allweddol.
"Y perygl rŵan ydi os ydi'r bont wedi mynd a ddim yn cael ei hailadeiladu, fydd y cynlluniau yma ddim yn cael eu hystyried.
"Mae angen herio Network Rail i ailgodi'r bont."
Yn ôl llefarydd ar ran Network Rail mae'r cwmni yn edrych ar opsiynau yn ymwneud ag adnewyddu'r bont.
"Dyw'r rheilffordd dim yn cael ei ddefnyddio ar hyn o bryd, ond oherwydd y difrod sylweddol mae ein peirianwyr wedi tynnu'r bont er mwyn sicrhau diogelwch defnyddwyr i ffordd a cherddwyr.
"Rydym yn edrych ar yr opsiynau posib ar hyn o bryd o ran oes modd gosod strwythur arall yno.
"Byddwn yn diweddaru pobl yr ardal ynglŷn â'r camau nesaf."