Dyn wedi llithro mewn cartref gofal cyn ei farwolaeth
- Cyhoeddwyd
Clywodd cwest fod dyn ag anabledd dysgu, a fu farw ar ôl torri ei wddf, wedi llithro i'r llawr wrth i weithwyr gofal geisio ei godi i'w draed o'r gwely.
Roedd Heddwyn Hughes, 67 oed, yn byw mewn cartref gofal yng Nghaerfyrddin ac angen gofal llawn amser.
Yn dilyn digwyddiad yn y cartref ar 6 Mai 2015, fe sylwodd gofalwyr nad oedd yn gallu symud ei freichiau a'i goesau ac fe gafodd ei gludo i Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin, lle bu farw ar 18 Hydref.
Mewn datganiad ysgrifenedig, dywedodd ei chwaer, Moelwen Gwyndaf, wrth y gwrandawiad na chafodd ei brawd ddiagnosis ei fod wedi torri ei wddf tan 15 Mai.
Ychwanegodd Ms Gwyndaf ei bod hi'n "caru ei brawd yn fawr iawn" a'i bod hi am ddarganfod "sut y cafodd ei anafu".
Clywodd y cwest yn Aberdaugleddau gan Phil Ackers, un o'r gofalwyr oedd yn edrych ar ôl Mr Hughes, a ddywedodd fod symudedd Mr Hughes wedi gwaethygu cyn y digwyddiad.
Ar fore 6 Mai, dywedodd Mr Ackers ei fod wedi sylwi bod Mr Hughes yn symud mewn ffordd fwy trwsgl na'r arfer wrth fynd ag ef i'r ystafell folchi, ond doedd e "ddim yn bryderus" am y sefyllfa.
Dywedodd y gofalwr ei fod wedi penderfynu codi Mr Hughes, oedd yn pwyso 16 stôn, i'w draed am ei fod eisoes wedi sefyll yn barod yn ystod y bore hwnnw.
Cadarnhaodd Mr Ackers nad oedd ef a chydweithwraig o'r enw Eryl Evans wedi medru cynnal ei bwysau yn llwyr wrth iddo lanio ar y llawr.
'Tua troedfedd a hanner'
Yn ôl Mr Ackers, fe lithrodd Mr Hughes a glanio ar ei ben ôl "mewn glaniad oedd ddim gyda'r ysgafnaf'" wrth iddo geisio ei godi o'r gwely gyda chydweithwraig.
Ychwanegodd nad oedd Mr Hughes i weld mewn unrhyw boen ar ôl llithro "tua throedfedd a hanner".
Polisi'r bwrdd iechyd oedd gadael i gleifion i syrthio os nad oedden nhw yn medru cynnal eu pwysau ei hunain, ond doedd e ddim wedi gwneud hynny.
Mae'r cwest yn parhau.