Cefnogi elusen tiwmor yr ymennydd sgwâr wrth sgwâr

  • Cyhoeddwyd
Criw CwiltioFfynhonnell y llun, Bethan Jones
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r clwb yn cwrdd ddwywaith y mis yn neuadd Cwmtirmynach

Mae aelodau clwb gwnïo yng Ngwynedd wedi creu cwilt arbennig ar gyfer achos da.

Mae 18 aelod o Glwb Gwnïo Cwmtirmynach ger Y Bala wedi bod wrthi ers mis Ionawr yn creu cwilt sy'n cael ei roi fel gwobr raffl ddydd Sul, gyda'r elw'n mynd at achos da.

Mae'r criw wedi penderfynu rhoi'r arian i elusen tiwmor yr ymennydd, ac yn ôl Mim Roberts o'r clwb, mae rheswm penodol am hynny.

"Mae sawl un yn ein cymdeithas leol wedi colli rhywun annwyl o ganlyniad i diwmor ar yr ymennydd, felly fe wnaethom ni fel criw benderfynu gwneud hyn at achos da," meddai.

'Colli anwyliaid'

Mae'r criw yn dod at ei gilydd ddwywaith y mis ac yn cwrdd yn Neuadd Mynach.

Fe gafodd pob unigolyn y dasg o greu sgwâr ar gyfer y cwilt, sydd bellach yn mesur hyd a lled gwely dwbl.

Ffynhonnell y llun, Bethan Jones
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r cwilt yn cael ei roi fel gwobr raffl gyda'r elw yn mynd i elusen tiwmor yr ymennydd

Mae gwaith y criw wedi cael ei ddangos dros y penwythnos mewn arddangosfa arbennig ac mae Clwb Croes Bwyth Maesywaen a Chlwb Gwnïo Parc hefyd yn rhan o'r trefniadau.

Un aelod o'r clwb gwnïo yw Bethan Jones a dywedodd wrth Cymru Fyw fod sawl person yn lleol yn gwerthfawrogi dewis y clwb i roi arian i Gronfa Tiwmor yr Ymennydd Gogledd Cymru yn Ysbyty Glan Clwyd.

"Mae nifer yn y gymuned wedi colli anwyliaid i'r cyflwr yma, felly roedden ni'n teimlo fel dosbarth mai dyma'r elusen y dylai elwa."

'Dangos diddordeb'

Yn ôl Ms Roberts, mae'r clwb wedi gwerthu dros £1000 o ran tocynnau raffl.

"Mae 'na lot wedi dangos diddordeb i ddod i'r arddangosfa a bydd y raffl yn cael ei dynnu brynhawn Sul."

Mae modd gweld arddangosfa o waith Clwb Gwnïo Cwmtirmynach yn neuadd Mynach rhwng 10:00 a 15:00 ddydd Sul.