Diddymu tollau pont yn 'gorfodi codi ffordd liniaru M4'
- Cyhoeddwyd
Mae diddymu tollau Pont Hafren yn ffordd o orfodi Llywodraeth Cymru i godi ffordd liniaru'r M4, yn ôl AC Llafur.
Mae Lee Waters wedi mynegi pryderon ar ôl i astudiaeth Llywodraeth y DU ddweud y gallai'r newid arwain at chwe miliwn yn fwy o gerbydau bob blwyddyn.
Dywedodd bod gweinidogion San Steffan yn "caniatáu" mwy o draffig ac yn ceisio "rheoli" y polisi trafnidiaeth yng Nghymru.
Mae Llywodraeth y DU yn dweud y bydd cael gwared â'r tollau ar 17 Rhagfyr yn rhoi hwb o £1bn i economi Cymru.
Mae'r astudiaeth, sydd wedi'i rhyddhau drwy'r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth yn gynharach eleni, yn awgrymu y bydd dros 24 miliwn o geir yn croesi'r ddwy bont i gyfeiriad y gorllewin erbyn 2022 - cynnydd o chwe miliwn o geir.
Mae Llywodraeth Cymru wedi cefnogi adeiladu ffordd liniaru'r M4 o gwmpas Casnewydd, ond hyd yma does dim penderfyniad terfynol gan fod canlyniad ymchwiliad cyhoeddus eto i ddod.
Mae San Steffan, er hynny, o'r farn y bydd y ffordd wedi'i chodi erbyn 2022 ac yn honni na fydd y ffordd liniaru yn cael fawr o effaith ar Gasnewydd.
Mae'r astudiaeth, a gafodd ei llunio wedi'r penderfyniad i gael gwared â'r tollau, yn amcangyfrif y bydd cynnydd traffig ar y ddwy bont yn 42% erbyn 2022 (o'r flwyddyn 2014) - ond nodir mai 4% y byddai'r cynnydd petai'r tollau ychydig is na'r hyn ydynt ar hyn o bryd.
Mae'r astudiaeth yn dweud hefyd mai rhwng cyffyrdd 20 a 23 fydd y traffig mwyaf a bod cael gwared â'r tollau yn golygu "brysio'r broses o uwchraddio'r ffyrdd yn ardal y pontydd".
Dywedodd AC Llanelli, Lee Waters, sy'n gwrthwynebu ffordd liniaru'r M4: "Mae'n glir fod llywodraeth y DU yn defnyddio tollau Pont Hafren i geisio gorfodi Llywodraeth Cymu i godi traffordd newydd.
"Yn gyntaf fe geision nhw ein llwgrwobrwyo trwy roi pwerau benthyg i ni petaem yn eu defnyddio ar ffordd newydd, a nawr maen nhw'n cyfaddef bod "cael gwared â'r tollau yn mynd i gyflymu'r angen i uwchraddio'r rhwydwaith.
"Dyma ymdrech fwriadol i reoli polisi trafnidiaeth yng Nghymru."
Mae Swyddfa Cymru wedi gwrthod honiadau Mr Waters ac yn dweud bod yr astudiaeth wedi'i gwneud gyda chydweithrediad Llywodraeth Cymru.
Dywedodd yr Adran Drafnidiaeth bod "gwaith mwy manwl" wedi cael ei wneud ers yr astudiaeth dan sylw a bod y gwaith hwnnw'n dangos mai 23% fydd cynnydd y traffig erbyn 2019.
Ychwanegodd llefarydd bod Adran Briffyrdd Lloegr wedi bod yn gweithio â chynghorau a chyrff eraill er mwyn paratoi at effaith diddymu'r tollau.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y DU: "Mae'r Prif Weinidog ac Ysgrifennydd Gwladol Cymru wedi'u hymrywmo i gael gwared â'r tollau o fewn wythnosau a hynny er mwyn cryfhau potensial economaidd de Cymru a chymunedau eraill o bob ochr i'r ffin."
Ac fe ddywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Ry'n ni mewn cysylltiad ag Adran Briffyrdd Lloegr ac fe fydd adroddiad, sydd wedi'i lunio ar y cyd, ar effaith diddymu tollau Pont Hafren yn cael ei gyhoeddi'n fuan."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Hydref 2018
- Cyhoeddwyd22 Ionawr 2018