Perchnogion cŵn yn protestio yng Nghaerdydd
- Cyhoeddwyd
Mae tua 200 o berchnogion cŵn wedi cynnal protest yn erbyn cynlluniau Cyngor Caerdydd i wahardd yr anifeiliaid o rai rhannau o'r ddinas.
Mae dros 15,000 o bobl wedi arwyddo deiseb yn gwrthwynebu'r posilrwydd o wahardd cŵn o fannau chwarae caeëdig a meysydd chwaraeon wedi'u marcio ar draws y ddinas.
Gallai'r ddirwy am fethu â glanhau baw ci hefyd godi o £80 i £100 fel rhan o gynllun ehangach i geisio rheoli baw ci ac ymddygiad cŵn.
Mae gwrthwynebwyr yn poeni y byddai'r newidiadau'n stopio pobl rhag mynd â'u cŵn am dro ar rannau helaeth o dir gwyrdd Caerdydd.
Fe gerddodd y protestwyr o Gaeau Llandaf, trwy Gaeau Pontcanna, Parc Bute ac ar draws Ffordd y Gogledd i Neuadd y Ddinas.
Dywedodd trefnydd y brotest, Clare Fanson: "Mae llawer ohonon ni'n teimlo ein bod ni gyd yn cael ein cosbi ar ran y nifer fach sydd ddim yn clirio ar ôl eu cŵn."
Dywedodd yr awdurdod bod angen gweithredu ar ôl derbyn 500 o gwynion ynglŷn â baw ci yn y 12 mis hyd Ebrill 2017.
Ond mae ymgyrchwyr wedi codi cwestiynau ynghlych y ffigwr hwnnw ar ôl i gais Rhyddid Gwybodaeth ddangos nifer y dirwyon yn ymwneud â baw ci - pedwar o fewn y 12 mis diwethaf, a 142 mewn pum mlynedd.
Dywedodd llefarydd ar ran y cyngor: "Bob blwyddyn, rydym yn derbyn nifer sylweddol o gwynion am faw ci ac am gŵn sydd allan o reolaeth mewn mannau cyhoeddus.
"Tra bod mwyafrif perchnogion cŵn yn gyfrifol ac yn gwneud y peth cywir trwy lanhau ar ôl eu cŵn a'u cadw dan reolaeth, mae yna leiafrif sy'n achosi problemau sylweddol."
Ychwanegodd: "Byddai cyflwyno gorchymyn gwarchod mannau cyhoeddus yn galluogi'r cyngor i fynd i'r afael â'r niwsans yma fel bod modd i bawb fwynhau ein mannau agored cyhoeddus yn ddiogel."
Pwysleisiodd hefyd y bydd modd i berchnogion fynd â'u cŵn am dro ar feysydd chwarae pan nad ydyn nhw mewn defnydd rhwng y tymhorau chwarae perthnasol.
Dan gynigion y gorchymyn gwarchod mannau cyhoeddus, byddai angen i berchnogion gadw'u cŵn ar dennyn ym mynwentydd y cyngor.
Mae'r ymgynghoriad, dolen allanol ar yr holl gynigion yn dod i ben ddydd Llun.