Bwriad i ddatblygu teclynnau fel 'Alexa' yn y Gymraeg

  • Cyhoeddwyd
Amazon EchoFfynhonnell y llun, Amazon
Disgrifiad o’r llun,

Mae teclynnau gorchymyn ar lafar yn gynyddol boblogaidd - ond ar hyn o bryd does dim modd siarad iddynt yn y Gymraeg

Gallai fersiynau Cymraeg o declynnau gorchymyn ar lafar fel Alexa a Siri gael eu datblygu yn y dyfodol, yn ôl Gweinidog y Gymraeg.

Dywedodd Eluned Morgan ei bod hi'n hollbwysig fod pobl yn cael mwy o gyfleoedd i ddefnyddio'r iaith mewn perthynas â thechnolegau a datblygiadau newydd.

Daw hynny wedi rhybuddion diweddar fod teclynnau o'r fath, sydd yn gynyddol boblogaidd yng nghartrefi pobl, yn troi iaith aelwydydd o'r Gymraeg i'r Saesneg.

Ddydd Mawrth fe fydd Llywodraeth Cymru'n lansio Cynllun Gweithredu Technoleg Iaith Gymraeg mewn ymdrech i weithredu yn y maes.

'Defnyddio'n hawdd'

Wrth gyhoeddi'r cynllun, dywedodd Ms Morgan eu bod yn awyddus i weld technolegau deallusrwydd artiffisial yn cael eu datblygu fydd yn golygu bod peiriannau'n medru deall y Gymraeg.

Ar raglen Post Cyntaf BBC Radio Cymru fore Mawrth, dywedodd Ms Morgan: "Dwi'n profi Alexa bob dydd, dwi'n rhoi prawf bach iddi a dyw hi ddim yn gwella, ac felly rhaid i ni wneud rhwbeth i wella'r sefyllfa yna.

"Mae'n rhaid i ni ddatblygu deallusrwydd artiffisial, a sicrhau bod peiriannau yn gallu deall yr iaith yn well, ac mae'n rhaid i ni wella cyfieithu peirianyddol.

"Y ffaith yw mae'r rhan fwyaf ohona ni'n byw ein bywydau yn ddwyieithog, ac mae hwnna'n golygu os allwn ni ddatblygu hyn mae 'na gyfle i ni hefyd ecsploitio fe, nid yn unig yng Nghymru ond gwerthu'r deallusrwydd yna trwy'r byd, ac felly mae 'na gyfle commercial fan hyn i ni hefyd os allwn ni ddatblygu hyn i ni werthu i wneud arian i'r wlad hefyd."

Mae'r cynllun hefyd yn gobeithio gwella ac ehangu ar y cynnwys Cymraeg sydd eisoes yn bodoli ar y we, fel gwefannau, rhaglenni cywiro sillafu, a mapiau rhyngweithiol.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Eluned Morgan fod "angen i'r Gymraeg symud gyda'r dechnoleg"

Ychwanegodd bod "cynifer o bobl yn defnyddio technoleg ar gyfer cynifer o wahanol bethau yn eu bywydau", bod rhaid iddi "fod mor hawdd ag sy'n bosibl iddyn nhw wneud hynny yn Gymraeg".

Mae'r cyhoeddiad yn rhan o gynllun uchelgais y llywodraeth i gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

Dywedodd Ms Morgan: "Rhan o'r strategaeth ydy nid yn unig cyrraedd miliwn o siaradwyr ond cael rheiny sydd yn siarad Cymraeg i siarad fwy o Gymraeg.

"Er fod tua 20% o'r boblogaeth yn siarad Cymraeg dim ond 10% sy'n defnyddio hi, felly mae sicrhau bod 'na well cyfle iddyn nhw ddefnyddio'r Gymraeg yn rhwbeth sydd yn help aruthrol."

Efallai o ddiddordeb:

Disgrifiad o’r llun,

Mae "ieithoedd yn farchnadoedd" yn ôl Huw Marshall

Nid Cymraeg yn unig sy'n gweld "prinder mawr" mewn technolegau yn ôl yr ymgynghorydd a strategydd digidol, Huw Marshall.

Dywedodd ei fod yn croesawu'r cynllun, ond yn meddwl ei fod "efallai yn rhy hwyr".

"Da ni 'di bod yn gofyn ac yn chwilio am hyn ers sbel, ac mae 'na fuddsoddiad wedi bod dros y blynyddoedd mewn technolegau, ond 'da ni dal ddim yn agosach at gyrraedd diwedd y daith."

Ychwanegodd: "Mae'r Gymraeg yn iaith fach, problem 'efo lot o'r systemau yma ydy bod y cwmnïau sy'n darparu technoleg mewn ieithoedd gwahanol - maen nhw'n edrych ar ieithoedd fel marchnad."

Dyw'r llywodraeth heb gyhoeddi faint o gyllid fydd yn mynd tuag at y cynllun newydd, ond yn y gorffennol mae Ms Morgan wedi dweud bod y llywodraeth "yn buddsoddi lot mwy o arian yn yr iaith Gymraeg" a bod grantiau i gynnal prosiectau technoleg iaith wedi arwain at "arloesi".

Rhybuddion

Yn gynharach eleni fe wnaeth pennaeth uned arbenigol ym Mhrifysgol Bangor alw am "weledigaeth tymor hir" er mwyn cynnal prosiectau technoleg iaith.

Dywedodd Delyth Prys o Uned Technolegau Iaith Canolfan Bedwyr nad oedd sefydliadau fel nhw yn cael digon o gyllid tymor hir i "gael ein dannedd mewn i brosiect" a datblygu technolegau newydd.

Mae'r uned wedi bod yn gyfrifol am ddatblygu prosiectau fel Lleisiwr, sydd yn ceisio ail-greu llais cleifion sydd mewn perygl o fethu siarad achos canser y gwddf neu gyflyrau niwrolegol.

Ym mis Awst fe wnaeth ASE Plaid Cymru, Jill Evans rybuddio y gallai Llywodraeth Cymru orfod ysgwyddo mwy o faich am ariannu prosiectau technolegol yn y Gymraeg yn dilyn Brexit.