Rhaid 'newid agwedd cenhedlaeth' at wiberod y DU

  • Cyhoeddwyd
Gwiberod
Disgrifiad o’r llun,

Mae Cymru'n parhau yn wlad ble mae niferoedd uchel o wiberod yn cynefino

Mae gan wiberod broblem delw allai olygu i'r rhywogaeth ddiflannu'n gyfan gwbl, yn ôl arbenigwyr.

Mae'r Amphibian and Reptile Groups of the UK (ARG UK) yn rhybuddio fod angen i "agwedd cenhedlaeth gyfan" newid tuag at y neidr.

Mae'r grŵp wedi bod yn gweithio gyda dros 500 o ysgolion yn Sir Benfro er mwyn trefnu gorymdaith ble fydd cerflun o wiber yn llithro drwy ddinas Tyddewi.

Mae Cymru'n parhau yn wlad ble mae niferoedd uchel o'r neidr yn cynefino.

Dywedodd cydlynydd y prosiect, Dr Sam Langdon wrth BBC Cymru fod gwiberod yn diflannu ar hyd y DU, gyda dim ond "pocedi bach" o'r creaduriaid yn cael eu gweld.

'Peryglus'

Ychwanegodd mai erledigaeth a cholli cynefin yw'r prif resymau y tu ôl i ddiflaniad y neidr.

"Maen nhw wedi bod yn cael eu portreadu'n wael yn y wasg ers talwm. Mae pobl dal yn mynd allan ac yn eu lladd, yn eu gweld nhw fel rhywbeth peryglus a rhywbeth i'w hofni.

Disgrifiad,

Cafodd y ddau wiber yma eu ffilmio yn ymladd gyda'i gilydd ger Tyddewi yn gynharach eleni

"Fe allwn wneud gwaith arolygu er mwyn ceisio eu diogelu, ond fy nheimlad yw, os nad ydyn ni'n newid sut mae pobl yn teimlo amdanyn nhw, fe wnawn ni eu colli nhw," meddai.

Er bod diffyg data ynglŷn â phoblogaeth, dywedodd mai'r teimlad ar lawr gwlad ymysg arbenigwyr yw bod y neidr yn diflannu.

'Diflannu'

Y gred yw bod y neidr eisoes wedi diflannu o Sir Nottingham a Sir Warwick ac ar fin diflannu o Sir Rhydychen, Sir Buckingham, Sir Hertford a Llundain.

Mae'r elusen wedi bod yn cynnal gweithdai gyda phob ysgol yn Sir Benfro, gyda'r amcan o newid agweddau ymysg y genhedlaeth ifanc.

Mae disgwyl i gannoedd o bobl fynychu'r orymdaith ym maes awyr Tyddewi.

Mae'r prosiect wedi'i ariannu gan Lywodraeth Cymru ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro.