'Siom' nad yw ap trenau Trafnidiaeth Cymru yn y Gymraeg

  • Cyhoeddwyd
tren KeolisAmeyFfynhonnell y llun, TfW
Disgrifiad o’r llun,

Mae KeolisAmey yn rhedeg y gwasanaethau trenau yng Nghymru ers 15 Hydref

Mae hi'n siomedig nad yw'r gwasanaeth trenau newydd yng Nghymru yn cynnig gwasanaethau ar-lein yn ddwyieithog, yn ôl arbenigwr iaith a thechnoleg.

Dywedodd Dewi Bryn Jones y dylai bob platfform digidol neu wasanaeth sydd wedi ei gomisiynu gan Lywodraeth Cymru fod yn ddwyieithog a bod y dewis hwnnw "ar gael o'r diwrnod cyntaf un".

Ym mis Mai fe enillodd cwmni KeolisAmey y cytundeb i redeg y gwasanaethau trenau yng Nghymru am y 15 mlynedd nesaf, a hynny dan enw Trafnidiaeth Cymru.

Wrth ymateb, mae Trafnidiaeth Cymru wedi gofyn i deithwyr fod yn "amyneddgar" gan fynnu eu bod nhw wedi ymrwymo'n llawn i ddarparu gwasanaeth Gymraeg.

Mae gweithredwyr newydd masnachfraint trenau Cymru a'r Gororau yn dweud y byddant yn gwario £800m ar drenau newydd, yn ogystal ag adeiladu rhwydwaith Metro De Cymru a recriwtio 600 o staff ychwanegol.

Er hynny, pan lansiodd y gwasanaeth newydd ar 15 Hydref roedd cwynion am ddiffyg gwasanaeth Gymraeg ar ap y cwmni, a dywedodd y Prif Weinidog Carwyn Jones ar y pryd y byddai'n sicrhau fod holl wasanaethau Trafnidiaeth Cymru yn ddwyieithog "cyn gynted â phosib".

Galw am gydraddoldeb

Yn ôl Mr Bryn Jones mae hi'n siomedig fod modd defnyddio'r ap blaenorol, un Trenau Arriva Cymru, yn y Gymraeg, ond nad oedd hynny'n bosib ar y platfform newydd.

"Maen nhw wedi cael digon o amser, dydi o ddim yn anodd ac maen nhw wedi cael digon o gyllid siawns," meddai ar raglen Taro'r Post BBC Radio Cymru.

"Mae 'na broses caffael yn fan hyn sydd wedi mynd o'i le... dylai gwasanaethau digidol fel hyn fod ar gael yn y Gymraeg a'r Saesneg o'r cychwyn cyntaf, a ni ddylid gorfod aros am wythnosau er mwyn cael cydraddoldeb."

Ychwanegodd fod rhai systemau eraill sydd wedi cael eu comisiynu gan y llywodraeth lle mae'r Gymraeg yn ymddangos rhai misoedd ar ôl cyhoeddi.

Dywedodd Trafnidiaeth Cymru: "Rydyn ni'n cytuno i'r carn y dylai ein cwsmeriaid allu archebu eu tocynnau yn yr iaith Gymraeg, felly rydyn ni'n gweithio gyda phartneriaid o fewn y diwydiant i geisio datrys y broblem.

"Ar hyn o bryd mae'r wefan a'r ap, gan gynnwys y gwasanaeth archebu ar-lein a ddarparwyd drwy Trainline, yn defnyddio data sawl system rheilffordd o wahanol rannau o'r DU ac ar y funud dim ond drwy gyfrwng y Saesneg y mae modd dehongli'r data."

Gofynnodd y cwmni i gwsmeriaid aros yn amyneddgar wrth iddyn nhw "wneud eu gorau glas i roi gwasanaeth cyfrwng Cymraeg cywir yn ei le cyn gynted â phosib".