Pryfed ffrwythau a microsgop £1m yn brwydro dementia
- Cyhoeddwyd
Bydd pryfed ffrwythau a microsgop gwerth £1m yn helpu gwyddonwyr yng Nghaerdydd i geisio dod o hyd i driniaethau newydd ar gyfer dementia.
Fe fydd yr ymchwil yn digwydd wedi i Brifysgol Caerdydd dderbyn £20m i sefydlu canolfan newydd i astudio clefydau fel Alzheimer's.
Dyma'r buddsoddiad mwyaf erioed mewn ymchwil o'r fath yng Nghymru.
Nod y ganolfan fydd cydweithio â phump o ganolfannau eraill ar draws Prydain i gynyddu'r ddealltwriaeth o beth sy'n achosi clefydau'r ymennydd, gyda'r gobaith yn y pendraw i ddod o hyd i driniaethau.
Mae dros 70 o wyddonwyr o bob cwr o'r byd wedi cael eu recriwtio i'r ganolfan, gyda'r gobaith o ehangu'r grŵp i 100 yn y dyfodol agos.
Yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae dros 40 o enynnau sy'n cyfrannu at y risg o glefyd Alzheimer's wedi cael eu darganfod, a bydd y tîm yng Nghaerdydd yn defnyddio'r wybodaeth hynny i weithio ar ddamcaniaethau a darganfyddiadau newydd.
Ond beth yn union fydd yn digwydd yn y ganolfan newydd?
Ymchwil ar bryfed ffrwythau
Yn un ystafell yn labordai'r ganolfan mae silffoedd sy'n llawn tiwbiau yn cynnwys miloedd o bryfed ffrwythau - ond pam?
"Wrach na fyddai pawb yn gwybod, ond mae pryfed yn fodel da iawn ar gyfer edrych ar glefydau niwrolegol," meddai Dr Emyr Lloyd-Evans, uwch ddarlithydd yn ysgol biowyddorau Prifysgol Caerdydd, fydd yn rhedeg labordy yn y ganolfan newydd.
"Mae ganddyn nhw ymennydd - bychan iawn - ond mae'n debyg i'n hymennydd ni.
"'Da ni felly'n gallu modelu ynddyn nhw sut mae Alzheimer's yn datblygu, ond yn gyflymach o lawer.
"Mewn pobl mae'n cymryd degawdau i weld symptomau Alzheimer's, ond mewn pryfaid mae'n digwydd mewn dyddiau i wythnosau."
Microsgop gwerth miliwn
Mewn ystafell arall mae microsgop robotig gwerth £1m gafodd ei gynhyrchu yn Llantrisant.
Cyllid gan Lywodraeth Cymru sydd wedi talu amdano.
Mae microsgop Opera Pheonix yn gallu sganio a dadansoddi miloedd o gelloedd unigol ar gyflymder uchel syn caniatáu i'r tîm weld yn fanwl pa newidiadau sy'n digwydd mewn celloedd arbennig dros gyfnod o amser.
Y gobaith yw defnyddio'r microsgop i astudio'r newidiadau mewn celloedd bonyn [stem cells] sydd wedi'u haddasu er mwyn deall y prosesau biolegol sydd ynghlwm â dementia.
Yw'r corff yn ymosod ar ei hun?
Mae ymchwil geneteg sydd eisoes wedi cael ei gyflawni yng Nghaerdydd yn awgrymu y gallai system imiwnedd y corff fod yn rhannol gyfrifol am ddatblygiad dementia.
Un o'r cwestiynau canolog y bydd ymchwilwyr y ganolfan yn ceisio'i ateb yw sut.
Dan amgylchiadau arferol mae system amddiffyn y corff yn gyfrifol am "dacluso" yr ymennydd a chael gwared ar gelloedd neu feinwe sydd wedi marw neu wedi cael eu difrodi.
Ond os yw'r system imiwnedd yn dechrau ymosod ar gelloedd iach, y gred yw y gall hynny arwain at Alzheimer's.
Bydd yr Athro Paul Morgan, athro imiwnoleg ym Mhrifysgol Caerdydd, yn rhedeg prosiect yn y ganolfan ac yn edrych yn benodol ar hynny.
"Y gred yn y lle cyntaf oedd bod yr ymennydd yn dirywio, neu'n pydru yn ara' bach mewn pobl â dementia, ond nid hynny yw'r gwir o gwbl," meddai.
"Yn hytrach, mae'n glefyd llidol sy'n dinistrio celloedd yr ymennydd.
"Mae gwybod hynny'n caniatáu i ni ddatblygu triniaethau newydd, oherwydd ry'n ni'n gallu delio â llid, er enghraifft mewn cleifion â chrud cymalau, ac efallai y gallwn ni efelychu hynny er mwyn trin clefydau'r ymennydd."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Gorffennaf 2018
- Cyhoeddwyd29 Tachwedd 2016
- Cyhoeddwyd18 Mawrth 2015