Ystyried cau ysgol uwchradd ym Môn achos llefydd gwag

  • Cyhoeddwyd
ysgol syr thomas jonesFfynhonnell y llun, Google

Fe allai un o ysgolion uwchradd Ynys Môn gael ei chau dan gynlluniau sydd wedi eu llunio gan swyddogion y cyngor sir.

Ar hyn o bryd dim ond 479 o ddisgyblion sydd wedi'u cofrestru yn Ysgol Syr Thomas Jones yn Amlwch, a hynny er bod lle i 971.

Ymhlith y cynigion er mwyn cwtogi nifer y llefydd gwag mae cynllun fyddai'n gweld yr adeilad yn cael ei ehangu, ond gyda chwech o ysgolion cynradd lleol yn cau a symud eu disgyblion yno.

Opsiwn arall fyddai i'r ysgol uwchradd gau yn gyfan gwbl, gyda'r disgyblion yn symud i un o'r pedair ysgol uwchradd arall ar yr ynys.

Gallai cau'r ysgol uwchradd dal olygu cau rhai o'r ysgolion cynradd cyfagos hefyd, gydag ysgol ardal newydd yn cael ei hadeiladu yn eu lle.

'Dim wedi'i benderfynu'

Cafodd Ysgol Syr Thomas Jones ei hagor yn 1950 - yr ysgol gyfun bwrpasol cyntaf ym Mhrydain ar y pryd - ac roedd dros 1,200 o ddisgyblion yno ar un cyfnod.

Ond mae'r niferoedd wedi disgyn ers yr 1970au, gydag Ysgol Uwchradd Bodedern yn agor yn 1977, ac yn fwy diweddar mae maint gweithlu atomfa Wylfa yn yr ardal hefyd wedi gostwng.

Rhwng 5 Tachwedd a 2 Rhagfyr fe fydd y cyngor yn cynnal sesiynau gwybodaeth gyda'r cyhoedd, er nad ydyn nhw'n ymgynghori'n ffurfiol ar hyn o bryd.

Mae swyddogion yn dweud bod 16% o'r llefydd ysgol yn nalgylch Ysgol Syr Thomas Jones yn wag - y canran uchaf ar yr ynys.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Cyngor Môn yn dweud y byddan nhw'n parhau i wynebu pwysau ariannol dros y blynyddoedd nesaf

Dim ond 3% o lefydd dalgylch Ysgol Bodedern sy'n wag, gyda'r canran yn 13% ar gyfer Ysgol Caergybi, ac 14% ar gyfer Ysgol Llangefni ac Ysgol David Hughes.

Mae hynny wedi arwain at sefyllfa ble mae'r swm sydd yn cael ei wario ar bob disgybl yn Ysgol Syr Thomas Jones - £5,607 - yn uwch na chyfartaledd yr ynys o £4,874.

Ymhlith yr ysgolion cynradd allai hefyd gau mae Ysgol Gynradd Amlwch, Ysgol Cemaes, Ysgol Gynradd Garreglefn, Ysgol Gymuned Llanfechell, Ysgol Penysarn ac Ysgol Gymuned Rhosybol.

Dywedodd y cyngor y byddai pwysau ar eu cyllideb dros y blynyddoedd nesaf hefyd yn debygol o olygu y byddai angen "adolygu" gwariant ar ysgolion.

"Fe ddylen ni edrych ar hyn fel cyfle i ddod a buddsoddiad i'r ardal a chyfle i sicrhau safle ar gyfer yr 21ain Ganrif, nid yn unig i'n plant ond i'r gymuned," meddai Richard Owain Jones, cynghorydd yn ward Twrcelyn yng ngogledd yr ynys.

"Mae'n rhaid i ni gofio nad oes unrhyw beth wedi ei benderfynu ar hyn o bryd."