Cyhoeddi enwau tri wedi gwrthdrawiad angheuol ger Dinbych

  • Cyhoeddwyd
colin hornbyFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Colin Hornby, 17, o ardal Manceinion oedd un o'r rheiny fu farw

Mae'r heddlu wedi cyhoeddi enwau tri bachgen yn eu harddegau gafodd eu lladd mewn gwrthdrawiad yn Sir Ddinbych nos Wener.

Digwyddodd y gwrthdrawiad rhwng Vauxhall Corsa a Vauxhall Antara ar ffordd gefn rhwng Dinbych a Threfnant toc cyn 19:30.

Roedd y tri llanc fu farw yn teithio yn yr un cerbyd, ac mae dau arall oedd yn y car gyda nhw wedi'u cludo i'r ysbyty ag anafiadau difrifol.

Cafodd dynes oedd yn teithio yn y car arall hefyd anafiadau difrifol, ac mae dyn arall wedi cael man anafiadau.

Teyrnged

Roedd y tri gafodd eu lladd yn y gwrthdrawiad - John Michael Jones, 18, a Leon Rice, 17, o Ruthun, a Colin Hornsby, 17, o ardal Manceinion - yn teithio yn y Vauxhall Corsa.

Mae bachgen 16 oed oedd yn teithio yn y car yn derbyn triniaeth mewn ysbyty yn Lerpwl, tra bod dyn 19 oed oedd hefyd yn y car yn cael ei drin Ysbyty Glan Clwyd, Bodelwyddan.

Disgrifiad o’r llun,

Mae blodau wedi cael eu gadael ger safle'r gwrthdrawiad

Fe wnaeth gyrrwr y Vauxhall Antara, dyn 66 oed, ddioddef man anafiadau, ond cafodd dynes 68 oed oedd yn deithiwr yn y cerbyd anafiadau mwy difrifol ac mae hithau hefyd yn cael ei thrin yn Ysbyty Glan Clwyd.

Brynhawn ddydd Sadwrn fe gyhoeddodd teulu Colin Hornby deyrnged iddo gan ddweud: "Roedd holl deulu a ffrindiau Colin yn ei garu.

"Roedd e'n caru bywyd, cerddoriaeth a dillad ffasiynol. Bydd ei deulu a'i ffrindiau'n teimlo colled fawr ar ei ôl a fydd ein bywydau ni fyth yr un peth hebddo."

'Sioc lwyr'

Cafodd Ffordd y Graig rhwng y B5248 a Stad Ddiwydiannol Colomendy ei chau am gyfnod wedi'r gwrthdrawiad, cyn cael ei hailagor yn oriau man y bore.

Dywedodd Maer Dinbych, Catherine Jones fod y gymuned "wedi'u llorio ac mewn galar" yn dilyn digwyddiad.

"Mae pawb yn Ninbych mewn sioc lwyr, does dim geiriau," meddai.

"Mae'n drasiedi llwyr fod tri dyn ifanc â'u bywydau cyfan o'u blaenau wedi eu colli, ac rydyn ni'n cydymdeimlo'n ddwys gyda'r teuluoedd wrth iddyn nhw fynd drwy alar allwn ni ond ei ddychmygu.

"Mae'r gymuned gyfan yn galaru ac rydyn ni i gyd yn tynnu at ein gilydd i gynorthwyo a chefnogi'r teuluoedd."

Disgrifiad o’r llun,

Digwyddodd y gwrthdrawiad ar ffordd gefn rhwng Dinbych a Threfnant

Dywedodd yr uwch-arolygydd Jane Banham: "Mae hwn yn ddigwyddiad trasig ble bu farw tri pherson yn anffodus, ac rydym yn cydymdeimlo gyda'u teuluoedd ar yr adeg anodd yma.

"Mae'r tri theulu nawr yn derbyn cymorth gan swyddogion arbenigol.

"Rydym yn parhau i ymchwilio i'r digwyddiad ac mae'n swyddogion ni'n awyddus i glywed gan unrhyw un a welodd y gwrthdrawiad neu unrhyw un allai fod â delweddau dashcam o'r digwyddiad neu o'r cerbydau yn yr eiliadau cyn y digwyddiad."