Cau ffordd am gyfnod wedi gwrthdrawiad difrifol yn Sir Gâr

  • Cyhoeddwyd
Heddlu

Mae Heddlu Dyfed Powys dweud eu bod wedi gorfod cau ffordd yn Sir Gâr am dros saith awr dros nos yn dilyn gwrthdrawiad "difrifol".

Cafodd gwasanaethau tan ac ambiwlans hefyd eu galw yn dilyn gwrthdrawiad ar yr A40 ger Llanllwch toc wedi 20:00 nos Sadwrn.

Dywedodd Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru fod dau gerbyd yn rhan o'r gwrthdrawiad.

Does dim gwybodaeth ar hyn o bryd ynglŷn ag unrhyw anafiadau.

Cafodd y ffordd rhwng Caerfyrddin a Sanclêr ei hailagor am 03:00 fore Sul.