Seiciatryddion yn penodi bardd i drin salwch meddwl
- Cyhoeddwyd
Mae'r bardd a'r dramodydd Patrick Jones wedi'i benodi'n artist preswyl i Goleg Brenhinol y Seiciatryddion yng Nghymru.
Bu'n gweithio ar brosiectau gyda phobl â dementia yn ddiweddar, ond nawr mae'n ymuno â'r rhai sy'n trin problemau iechyd meddwl.
Dywedodd Patrick Jones: "O'r tu fas, maen nhw'n ymddangos fel corff academaidd iawn.
"Pan ges i fy nghyfarfod cyntaf roeddwn i'n ofni fy mod i'n mynd i gael fy nadansoddi, sy'n ystrydeb wrth gwrs.
"Ond dwi'n credu bod hwn yn gyfle gwych i gymysgu ffeithiau gwyddonol caled gydag ebychiadau creadigol."
'Ffordd newydd o gynnig cefnogaeth'
Mae Jones, sy'n frawd i Nicky Wire o'r Manic Street Preachers, wedi gweithio'n ddiweddar gyda'r Forget-me-not Chorus - prosiect cerdd sy'n creu corau gyda phobl â dementia a'u teuluoedd.
Yn y gorffennol mae wedi ysgrifennu drama yn seiliedig ar ei brofiadau o weithio gyda chorau dementia, Before I Leave i'r National Theatre Wales.
Bydd ei waith gyda'r Coleg Brenhinol yn cynnwys annog seiciatryddion a meddygon eraill i drio eu llaw ar ysgrifennu creadigol.
Mae Jones, a anwyd yn Nhredegar, yn angerddol am y budd sy'n dod o ddefnyddio'r celfyddydau fel rhan o'r driniaeth ar gyfer problemau iechyd meddwl.
"Dwi'n credu bod pobl yn dihuno i'r ffaith fod hyn gymaint yn rhatach hefyd," meddai.
"Yn y cyfnod sydd ohoni, gyda'r llymder ariannol a'r toriadau i wasanaethau cyhoeddus, mae pobl yn chwilio am ffyrdd newydd o gynnig cefnogaeth, yn enwedig i bobl mewn sefyllfaoedd bregus, y rhai efallai fyddai'n cael eu gwthio i ffwrdd gan gymdeithas."
"I fi, mae'n mynd nôl i'm angerdd am ysgrifennu. Pan ddes i ar draws gwaith Allen Ginsberg a'r beirdd beat, roedd hi fel golau yn cael ei gynnau.
"Felly dwi'n mynd nôl i'r dyddiau hynny, a dwi o'r farn y dylai pawb gael cyfle i ddod ar draws geiriau a syniadau prydferth.
"Os ydych chi mewn cartref gofal, beth am rannu cerddoriaeth neu farddoniaeth hardd, achos mae'n mynd a phobl nôl i'w hatgofion.
"Dwi wedi darllen cerdd Wordsworth, Daffodils, ac mae'r stafell gyflawn wedi'i adrodd nôl atai, ac yn sydyn iawn maen nhw wedi dechrau trafod eu dyddiau ysgol."
Fel rhan o'i waith gyda'r coleg bydd Jones yn creu gweithiau newydd yn canolbwyntio ar brofiadau pobl o glywed a chofio caneuon.
Mae hefyd eisiau mwy o artistiaid Cymreig i ymuno â'r daith.
"Dwi'n gobeithio bydd modd creu gŵyl newydd flwyddyn nesaf yn canolbwyntio ar iechyd meddwl a'r celfyddydau," meddai.
"Fyddai hynny yn wych i Gymru, gan adeiladu gwahanol bethau ledled Cymru a dod a nhw at ei gilydd. Dwi'n meddwl mai nawr ydy'r amser ar gyfer y math yma o swydd."
Dywedodd yr Athro Keith Lloyd, Cadeirydd Coleg Brenhinol y Seiciatryddion yng Nghymru: "Dwi'n hapus iawn i groesawu Patrick i'r coleg. Mae'r gwaith yma yn gyffrous ac yn amhrisiadwy.
"Fe all salwch meddwl effeithio ar unrhyw un, ac mae'r ffordd rydyn ni'n rheoli ein hiechyd meddwl yn bwysig iawn.
"Mae gan y celfyddydau rôl i'w chwarae wrth hyrwyddo lles meddwl positif."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Hydref 2018
- Cyhoeddwyd5 Gorffennaf 2018