Canllawiau newydd ysgolion bach yn dod i rym
- Cyhoeddwyd
Dylai cynghorau wneud "popeth o fewn eu gallu" i gadw ysgolion gwledig ar agor, yn ôl canllawiau newydd sy'n dod i rym ddydd Iau.
Mae'r newidiadau i'r Cod Trefniadaeth Ysgolion yn cynnwys rhagdybiaeth yn erbyn cau ysgolion gwledig.
Dros y misoedd diwethaf, mae ymgyrchwyr mewn rhai ardaloedd wedi cyhuddo cynghorau o geisio cyflymu'r broses o gau rhai ysgolion.
Yn ôl yr Ysgrifennydd Addysg, Kirsty Williams, rhaid archwilio pob opsiwn posibl cyn penderfynu cau, gan gynnwys creu cyswllt gydag ysgolion eraill.
Am y tro cyntaf, bydd 219 o ysgolion yn cael eu rhestru fel rhai gwledig o dan y drefn newydd.
Ymgyrchoedd
Yn Ynys Môn a Bro Morgannwg, mae cyfres o ymgyrchoedd wedi eu cynnal i atal cau ysgolion gwledig.
Mae cynghorau yn wynebu costau cynnal ysgolion llai, sydd yn aml a nifer o lefydd gwag.
Ond yn ogystal ag asesu effaith cau ysgol ar addysg disgyblion a'r gymuned ehangach, mae'n rhaid i awdurdodau lleol esbonio pam mai cau yw'r trywydd mwyaf priodol.
Ym Mro Morgannwg, mae ymgynghoriad statudol yn dechrau wythnos nesaf ar gynlluniau i symud disgyblion o Ysgol Gynradd Llancarfan i adeilad newydd gwerth £4m yn y Rhws, sydd ryw 5 milltir i ffwrdd.
Mae ysgol wedi bod yn y pentref ers 1875 ac mae ychydig dros 100 o ddisgyblion ar y gofrestr ond mae'r cyngor yn amcangyfrif bydd y niferoedd yn gostwng ymhellach.
Ond mae ymgyrchwyr yn dweud bod yr ysgol yn rhan o'r gymuned a bod eu hymgais i sicrhau bod yr ysgol yn dod o dan y cod newydd yn cael ei anwybyddu.
Dywedodd Llywodraeth Cymru nad yw'r rhagdybiaeth yn erbyn cau yn berthnasol i geisiadau sydd eisoes wedi dechrau gan gynnwys rhai ble mae'r ymgynghoriad wedi ei gyhoeddi.
Yn y cyfamser mae cynlluniau yn cael eu hystyried gan gyngor Ynys Môn i gau sawl ysgol gynradd.
Dywedodd llefarydd ar ran y cyngor y bydden nhw'n "cydnabod a pharchu" egwyddorion y cod newydd ac "annog cymunedau lleol i weithio gyda ni i sefydlu trefniadau addysgiadol ar gyfer y dyfodol sy'n fwy effeithlon".
'Angen arian'
Ond dywedodd AC Plaid Cymru Rhun ap Iorwerth bod Llywodraeth Cymru yn "dymuno rhoi'r argraff" eu bod yn gwarchod ysgolion gwledig.
"Er fy mod yn croesawu unrhyw ymdrech i roi cymorth i ysgolion llai, dyw'r cod hwn yn gwneud dim ond rhoi mwy o rwystrau i gyngor orfod mynd drwyddo cyn dod i'r un penderfyniad - ac yn cynnig prin ddim arian ychwanegol, sef beth fyddai wir yn gwneud gwahaniaeth o ran sicrhau dyfodol ysgol wledig," meddai.
"Os yw Llywodraeth Cymru am helpu, dylai bod cymorth ymarferol sylweddol i gynghorau fuddsoddi mewn creu ysgolion ardal aml-safle. Fel arall, mae'r pwysau i gyd ar symud tuag at ysgolion mwy o faint, a llai ohonyn nhw, yn gwasanaethu ardaloedd eang."
Dywedodd yr Ysgrifennydd Addysg Kirsty Williams bod Llywodraeth Cymru yn "cefnogi disgyblion ac athrawon" mewn ardaloedd gwledig.
"Dydy hyn ddim yn golygu na fydd ysgol wledig byth yn cau, ond mae yn golygu y bydd pob opsiwn ac awgrym wedi cael eu hystyried cyn i benderfyniad gael ei wneud", meddai.
"Fe allai hynny gynnwys ffederasiwn gydag ysgolion eraill neu gynyddu defnydd y gymuned o adeiladau ysgol i wneud yr ysgol yn fwy cynaliadwy."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Gorffennaf 2018
- Cyhoeddwyd25 Hydref 2018
- Cyhoeddwyd12 Hydref 2018