Cau ward Ysbyty Llwynhelyg oherwydd salwch Gastroenteritis
- Cyhoeddwyd
Mae ward yn Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg wedi gorfod cau am 48 awr oherwydd salwch ymysg cleifion.
Yn ôl yr ysbyty mae nifer o gleifion ar Ward St Non yn profi symptomau sy'n gysylltiedig â Gastroenteritis, ac mae gofyn i ymwelwyr gadw draw.
Mewn datganiad dywedodd yr ysbyty fod arbenigwyr rheoli heintiau wedi gosod mesurau i atal y salwch rhag lledaenu.
Dywedodd Sharon Daniel, Dirprwy Gyfarwyddwr Nyrsio gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: "Rwyf yn annog pobl sy'n teimlo'n sâl neu sydd wedi bod mewn cysylltiad â rhywun sydd â'r symptomau hyn i beidio ag ymweld â chleifion mewn ysbyty ar hyn o bryd am fod firysau'n medru bod yn ddifrifol i gleifion sâl a bregus."
Mae rhagor o gyngor i ymwelwyr ar wefan y Gwasanaeth Iechyd, dolen allanol.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Tachwedd 2018