Morgannwg: Matthew Maynard yn brif hyfforddwr dros dro
- Cyhoeddwyd
Mae Clwb Criced Morgannwg wedi penodi Matthew Maynard fel prif hyfforddwr dros dro.
Yn gyn-gapten a phrif hyfforddwr, bydd Maynard, 52 oed, yn goruchwylio sesiynau hyfforddi'r clwb dros gyfnod y gaeaf.
Cafodd Robert Croft ei ddiswyddo o'r rôl ym mis Hydref ar ôl i Forgannwg orffen ar waelod ail adran Pencampwriaeth y Siroedd y tymor diwethaf.
Dywedodd Maynard: "Mae Morgannwg wastad wedi bod yn gartref i fi. Mae'n gyfle na allaf ei wrthod.
"Rydyn ni wedi profi cwpl o flynyddoedd anodd ond dwi'n edrych 'mlaen i gael gweithio gyda'r garfan dalentog yma dros y gaeaf."
Fe dreuliodd Maynard 20 mlynedd gyda'r sir fel chwaraewr yn ogystal â hyfforddi'r tîm rhwng 2008 a 2010.
Yn ôl Prif Weithredwr Morgannwg, Hugh Morris, Maynard yw'r person "perffaith" i allu datblygu chwaraewyr ifanc y clwb yn ystod y gaeaf.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Hydref 2018