'Byddai colli Flybe yn drychinebus' i Faes Awyr Caerdydd

  • Cyhoeddwyd
FlybeFfynhonnell y llun, Flybe
Disgrifiad o’r llun,

Mae Flybe yn hedfan i 14 o leoliadau o Faes Awyr Caerdydd

Byddai colli cwmni awyrennau Flybe o Faes Awyr Caerdydd yn "drychinebus", yn ôl cyn-bennaeth marchnata'r maes awyr.

Dywedodd Peter Phillips bod yr 14 o hediadau Flybe o Gaerdydd yn "allweddol" i dyfu nifer y teithwyr oddi yno.

Mae'r cwmni awyrennau ar werth am ei fod yn gwneud colled, ac mae Mr Phillips wedi annog Llywodraeth Cymru - perchnogion y maes awyr - i gynnig cefnogaeth i unrhyw brynwr.

Dywedodd Llywodraeth Cymru mai mater i'r maes awyr yw'r berthynas â Flybe.

Mae Flybe yn hedfan i ddinasoedd fel Paris, Berlin, Rhufain a Dulyn o brifddinas Cymru.

'Bregus iawn'

Fe wnaeth Mr Phillips ddisgrifio'r cwmni fel "gweithredwr mwyaf" y maes awyr, ac y byddai ei golli yn "gosod trafnidiaeth o Gymru 'nôl blynyddoedd".

Ychwanegodd ei fod yn amcangyfrif y gallai tua 100 o swyddi mewn perygl yng Nghymru pe bai'r maes awyr yn colli Flybe.

Ond mae'r cwmni o Gaerwysg yn dweud eu bod "mewn trafodaethau gyda nifer o weithredwyr ynglŷn â gwerthu'r cwmni".

Dywedodd Flybe yn gynharach yn yr wythnos y byddan nhw'n gwneud colled o £22m eleni, gan feio cwymp mewn galw, punt wannach a chostau tanwydd uwch.

Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Llywodraeth Cymru brynu Maes Awyr Caerdydd am £52m yn 2013

"Fy marn bendant i yw y dylai Llywodraeth Cymru gynnig rhyw fath o gefnogaeth," meddai Mr Phillips.

"Dim prynu'r cwmni, ond cynnig rhywbeth fyddai'n sicrhau bod y perchnogion newydd yn cadw eu hediadau o Faes Awyr Caerdydd."

Ychwanegodd y byddai'r maes awyr yn "fregus iawn" pe bai'r perchnogion newydd yn lleihau nifer yr hediadau o Gymru.