Carwyn Jones: 'Swyddfa Cymru ddim yn ddylanwadol'

  • Cyhoeddwyd
Carwyn Jones
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Carwyn Jones ei sylwadau mewn pwyllgor yn y Cynulliad ddydd Gwener

Nid oes gan Swyddfa Cymru lawer o ddylanwad ar Lywodraeth y DU, yn ôl Prif Weinidog Cymru Carwyn Jones.

Daw'r sylwadau ar ôl i Ysgrifennydd Cymru, Alun Cairns - sydd hefyd yn arwain Swyddfa Cymru - ddweud fod cytundeb Brexit yn fater ar gyfer gweinidogion y DU, nid Mr Jones.

Dywedodd Mr Jones wrth ACau fod effaith cytundebau masnach rhyngwladol yn "enfawr mewn ardaloedd datganoledig".

"Ond, nid wyf yn credu fod gan Swyddfa Cymru lawer o ddylanwad o gwbl ar y ffordd mae Llywodraeth y DU yn gweithio," meddai.

Mewn ymateb dywedodd ffynhonnell o Lywodraeth y DU fod Swyddfa Cymru yn "adran sy'n gweithio'n ddiwyd i sicrhau dyfodol gwell i Gymru.

"Mae'r Prif Weinidog yn ymwybodol iawn fod Swyddfa Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn rhan annatod o Lywodraeth ac yn gweithio'n agos gydag adrannau Whitehall, awdurdodau lleol a'i swyddogion i sicrhau bod Llywodraeth y DU yn darparu ar gyfer Cymru," meddai.

'Dwy lywodraeth'

Roedd Mr Jones, eisoes wedi beirniadu Theresa May am beidio â rhannu manylion am y cynllun drafft Brexit gyda'r llywodraethau datganoledig cyn ei drafod gyda'i chabinet.

Mewn datganiad ddydd Mercher ymatebodd Mr Cairns i sylwadau Mr Jones drwy ddweud fod "hwn yn bolisi sy'n dod o dan bwerau Llywodraeth y DU".

"Mae yna ddwy lywodraeth yng Nghymru," meddai.

"Dydw i ddim yn dweud wrth Lywodraeth Cymru beth i wneud gyda'r Gwasanaeth Iechyd. Mae hwn yn bolisi Ewropeaidd yn ogystal ag un i Lywodraeth y DU."

Mae un o weinidogion y cabinet, David Lidington hefyd wedi gwrthod honiadau fod Llywodraeth Cymru wedi cael ei anwybyddu yn ystod y broses o lunio'r cytundeb Brexit.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Alun Cairns wedi awgrymu y dylai Carwyn Jones sefyll fel AS os oedd am gael dweud ei ddwed ar faterion Llywodraeth y DU

Wrth ateb cwestiynau am sylwadau'r Mr Cairns mewn pwyllgor yn y Cynulliad ddydd Gwener, eglurodd Mr Jones fod perthynas gweinidogion Cymraeg â Llywodraeth y DU "ddim yn mynd trwy Swyddfa Cymru".

"Rydw i'n delio'n uniongyrchol gyda'r Prif Weinidog, dydw i ddim yn delio gydag Ysgrifennydd Cymru ac wedyn mynd trwyddo ef at y Prif Weinidog," meddai.

Ychwanegodd: "Nid yw'n gywir i ddweud ei fod yn fater sydd wedi ei gadw [yn San Steffan].

"Wrth gwrs, mae masnach ryngwladol a chytundebau rhyngwladol yn fater sydd wedi ei gadw, ond mae eu heffaith ar ardaloedd datganoledig yn enfawr.

"Dyw hi byth yn ddoeth i ddweud 'nid yw'n berthnasol i chi', oherwydd yn amlwg nid yw hynny'n wir.

"Ond, dydw i ddim yn meddwl fod gan Swyddfa Cymru lawer o ddylanwad ar y ffordd mae Llywodraeth y DU yn gweithredu, ac rwy'n credu fod Llywodraeth y DU yn bendant yn gweld hi'n haws delio gyda ni."

'Wastad yn gwrando'

Roedd Mr Lidington yn ymweld â Chaerdydd ddydd Iau i gyfarfod rhai o wleidyddion ac arweinwyr busnes Cymru i drafod rhai o'u cwynion diweddar.

Dywedodd wrth BBC Cymru fod Llywodraeth y DU "wastad yn gwrando" ar y llywodraethau datganoledig, gan ychwanegu fod y cytundeb Brexit yn cynnwys mesurau yn ymwneud â'r amgylchedd a hawliau gweithwyr yr oedd yn ffyddiog y byddai gwleidyddion Cymru yn eu cefnogi.

Yn ôl y gweinidog, y neges glir a ddaeth gan ddynion busnes Cymru oedd eu bod nhw'n gofyn am "eglurdeb a sicrwydd" o'r cytundeb i adael yr UE.

Ychwanegodd fod y cytundeb yn ffyddlon i ganlyniad y refferendwm ac yn hybu "perthynas farchnata dda" gyda'r UE ar gyfer y dyfodol.