'Ysgolion ddim yn gwybod digon am alergeddau'

  • Cyhoeddwyd
William with a box of sweet treats
Disgrifiad o’r llun,

Mae gan William focs o ddanteithion nad oes ganddo alergedd iddynt

'Dyw llawer o ysgolion ddim yn ymwybodol o'r angen i addysgu plant am alergeddau,' medd un fam i fachgen sydd ag alergedd difrifol i gathod a chnau.

Mae Stephanie Hulme sy'n fam i William, chwech oed, yn cynnig rhoi gwersi am ddim yn ysgolion cynradd y brifddinas gan ei bod yn gwybod y gallai ei phlentyn hi farw oherwydd ei alergeddau.

Dywed Llywodraeth Cymru fod pob ysgol wedi cael canllawiau i gynorthwyo plant sydd ag anghenion gofal iechyd o'r fath.

Mae Mrs Hulme yn dweud bod ei bachgen fel arfer "yn drist" pam nad oedd yn gallu cymryd rhan mewn rhai gweithgareddau cysylltiedig â bwyd.

Ond ers i'w fam ddechrau rhoi gwersi mae pethau wedi gwella.

Yn ôl Ystadegau Cymru cafodd 255 o bobl driniaeth ysbyty am alergeddau yn 2017-18.

Disgrifiad o’r llun,

Disgyblion ysgol yn Llanisien yn dysgu am alergeddau difrifol

Y gamp fwyaf i Mrs Hulme yw cael ysgolion â diddordeb.

Dywedodd: "Os nad oes plant yn yr ysgol ag alergeddau, dyw rhai ysgolion ddim yn credu bod rhaid iddynt fod â gwybodaeth amdanynt."

Mae Ymgyrch Anaphylaxis yn dweud eu bod wedi e-bostio 100 o ysgolion yn ne Cymru ond does dim llawer o ddiddordeb yn y sesiynau ymwybyddiaeth.

Yn ôl y prif weithredwr Lynne Regent: "Ry'n yn ystyried ein gwaith gydag ysgolion yn hollbwysig - dyw plant sydd ag alergeddau difrifol ddim yn sâl ond mi allai eu bywydau fod mewn peryg petant yn dod i gyffyrddiad â'r hyn y mae ganddynt alergedd iddo."

Dair blynedd yn ôl doedd Mrs Hulme ei hun ddim yn gwybod beth oedd yn bod ar ei mab William wedi iddo gael diod yn cynnwys llin (flax) mewn caffi yng Nghanada.

Fe aeth ei wefusau yn goch a doedd e ddim yn gallu aros ar ddi-hun.

Wedi iddo fynd i'r ysbyty bu'n rhaid iddo gael chwistrelliad EpiPen i'w wella.

Disgrifiad o’r llun,

Mae gan William alergedd i gathod a chnau

Ers symud i Brydain dywed y fam ei bod wedi bod yn anodd dod o hyd i fwydydd addas.

"Mae bywyd," meddai,"yn frwydr ddyddiol o siecio labeli a dulliau cynhyrchu bwyd."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae'n swyddogion wedi cyfaarfod â Mrs Hulme er mwyn trafod ei chyflwyniad ac yn cydweithio gyda hi i ledaenu ei neges i bob ysgol drwy'r daflen wybodaeth Dysg."