Sut daeth 9Bach o hyd i'r 'bachgen oedd yn byw efo cŵn'
- Cyhoeddwyd
Fis Mehefin rhyddhawyd ffilm am stori wir bachgen bach o Rwsia fu'n byw gyda theulu o gŵn ar strydoedd Moscow. Rhyfeddwyd at stori'r bachgen yn ffilm 'Lek and the Dogs' oedd wedi ymddangos mewn llyfrau a rhaglenni teledu hefyd, ond wyddai neb beth ddaeth o'r bachgen go iawn, Ivan Mishukov...
Tan i fand o Gymru sgrifennu cân amdano a llwyddo nid yn unig i'w ddarganfod ond ei gynnwys yn eu fideo hefyd.
Bu Lisa Jên o'r band 9Bach yn dweud stori ryfeddol Ivan a'r hanes tu ôl i'r fideo a'u sengl ddiweddaraf ar Raglen Aled Hughes, Radio Cymru.
"Wnes i sgrifennu cân ar gyfer yr albym Anian, o stori wir ddes i ar draws ar ddrama ar Radio 4 o'r enw, Ivan and the Dogs," meddai Lisa Jên.
"Stori oedd hi am Ivan Mishukov oedd yn byw yn Moscow. Roedd yn dod o gartref di-gariad di-freintiedig adeg cwymp yr Undeb Sofietaidd. Mi gerddodd allan yn bedair oed, i ganol yr eira a mynd i fyw efo pac o gŵn gwyllt am ddwy neu dair blynedd.
"Dyw cŵn ddim yn dweud celwydda' oedd mantra Ivan, a doedd o erioed wedi teimlo cariad tebyg i gariad y cŵn 'ma.
Arweinydd y pac
"Roedd Ivan yn cymryd bwyd o'r biniau ac yn bwydo ei hun a'r cŵn, ac felly roedd y cŵn yn meddwl, 'ok, os wnei di hyn i ni, wnawn ni dy gadw di'n gynnes.'
A dyna fel oeddan yn byw - Ivan a tua 12 o gŵn yn byw'n danddaearol ar strydoedd Moscow. Wnaethon nhw ddod yn deulu, ac ar ôl tua blwyddyn, Ivan oedd y pack leader - pen-blaidd y cŵn.
"Ond gydag amser, daeth yr heddlu i ddeall bod yna hogyn bach yn cerdded ar ei bedwar ac roedd gynnon nhw gywilydd mawr o hyn. Bob tro roedden nhw'n trio dal Ivan, roedd y cŵn yn mynd amdanyn nhw.
"Wnaeth yr heddlu drio dal Ivan rhyw dair gwaith yn y rhwyd 'ma, fel anifail, a'r trydydd gwaith wnaethon nhw lwyddo drwy rhoi cig mewn un congl ac aeth y cŵn am y cig. Mae'n debyg wedi i'r heddlu ddal Ivan yn y trap 'ma, bod Ivan yn beichio crïo yng nghefn y fan ar y ffordd i rhyw gartre' plant tra bod y cŵn wedi rhedeg drwy'r ddinas am ddiwrnodia' yn chwilio amdano.
"Felly roedd y gân am y teimlad yna... y tristwch o gael eu gwahanu ac yn gofyn ydy o'n iawn dan amgylchiadau fel hyn i ni ddweud bod Ivan angen ei achub? Doedd o ddim isho ei achub, roedd o'n hapus fel oedd o yn byw efo'r cŵn.
"Wrth i mi 'sgrifennu'r gân o'n i'n meddwl fod gen i ychydig o poetic licence. Wedi'r cyfan, fyddai Ivan byth yn clywed y gân...
"Wel, mae genna'i ffrind o'r enw Guto sy'n creu'r delweddau i ganeuon 9Bach a fo sydd yn gwneud llawer o'n fideos ni. Soniodd byddai wrth ei fodd yn gwneud fideo o'r gân, Ifan.
"Be' wnaeth Guto oedd mynd at ffrind iddo oedd yn byw yn Clynnog oedd yn arfer byw yn Moscow a gofyn os oedd o'n gyfarwydd â rhywun fyddai'n medru helpu drwy fynd allan i strydoedd Moscow i geisio ffilmio ychydig o eira ac ambell i gi efallai.
"Roedd y person yma'n 'nabod dyn o'r enw Andrey a gofynnodd iddo helpu, ond aeth Andrey gam ymhellach o thrio cysylltu gyda'r Ivan gwreiddiol.
"Mi lwyddodd i ffeindio Ivan drwy eu fersiwn nhw o Facebook a dyma Ivan yn gofyn am glywed y gân.
"Doedd Ivan ddim yn deall gair o Saesneg felly wnaeth Andrey ddweud stori'r gân a'i chyfieithu iddo. Ac roedd o wrth ei fodd!
"Gofynnodd i Andrey os fyddai'n hoffi iddo fod yn y fideo. A dyna ddigwyddodd!
"Wnaeth Ivan ddangos y mannau lle roedd o'n cadw'n gynnes efo'r cŵn, lle oedd y bloc o fflatiau oedd yn arfer byw ynddyn nhw cyn iddo gerdded allan... felly 'da ni mewn cysylltiad gydag Ivan.
"Mae llwyth o lyfrau a ffilmiau wedi eu gwneud amdano ond neb wedi meddwl mynd i chwilio amdano.
"Yn wir ar ddiwedd cyfweliadau ar gyfer y ffilm Lek and the Dogs, mae rhywun yn dweud nad oes ganddyn nhw syniad beth oedd wedi digwydd i Ivan a'i fod yn siŵr o fod yn y gwter yn rhywle!
"Felly unwaith eto, cafodd Ivan ei ddiystyru'n llwyr! Roedden nhw'n ddigon parod i ddefnyddio'i stori, heb ffwdanu ceisio darganfod beth ddigwyddodd wedyn.
"O fod mewn cysylltiad ag Ivan, sydd erbyn hyn yn ei ugeiniau hwyr, mae'n dweud ei fod wedi gweld trwy'r holl ddarnau o gelf ac ati sydd wedi eu gwneud am ei fywyd ond mae'n falch iawn o 9Bach gan bod ni wedi trin ei stori gyda pharch."
Cafodd Ivan ei roi mewn cartref plant ar ôl cael ei ddal meddai Lisa a chael ei faethu wedyn gan wraig wnaeth roi ci iddo'n anrheg.
Stopiodd gyfarth a cherdded ar ei bedwar a llwyddodd i gyfleu ei stori. Mae bellach yn byw yn ei gymuned ac yn gweithio mewn ffatri.
Mae Lisa yn gobeithio y gallan nhw gyfarfod ac mae Ivan yn awyddus i ddod i Gymru.
Efallai o ddiddordeb: