Adrannau brys: Mwy yn aros dros 12 awr ym mis Hydref

  • Cyhoeddwyd
A&E
Disgrifiad o’r llun,

Mae adrannau brys Cymru wedi perfformio ychydig yn waeth ym mis Hydref o'i gymharu â Medi

Mae'r ystadegau diweddaraf yn dangos bod perfformiad o ran amseroedd aros mewn adrannau brys yng Nghymru wedi gwaethygu ychydig fis Hydref.

Ar hyd Cymru cafodd 80% eu gweld o fewn pedair awr, o'i gymharu â 80.3% ym mis Medi. 95% yw'r targed.

Er eu bod yn dal i fod ymhlith yr ysbytai sy'n perfformio waethaf, mae ysbytai Maelor Wrecsam a Glan Clwyd wedi gweld gwelliannau am ail fis yn olynol.

Roedd ffigyrau'r ddau ysbyty ar eu gwaethaf ym mis Awst eleni.

Disgrifiad o’r llun,

Ysbyty Maelor Wrecsam sydd ymhlith yr ysbytai sy'n perfformio waethaf, ond mae pethau wedi gwella yno yn ystod mis Hydref

Ym mis Hydref cafodd 54.1% o gleifion eu gweld o fewn pedair awr yn Ysbyty Maelor Wrecsam, o'i gymharu â mis Awst, ble cafodd llai na hanner y cleifion eu gweld o fewn yr amser hwnnw.

Yn Ysbyty Glan Clwyd dim ond 58.5% o gleifion cafodd eu gweld o fewn pedair awr.

Ni ddylai unrhyw un orfod aros dros 12 awr mewn uned frys - a cafodd 95.6% o gleifion eu gweld o fewn yr amser hwnnw am yr ail fis yn olynol.

Fodd bynnag, mae'r nifer sy'n aros dros 12 awr mewn adran frys yng Nghymru ym mis Hydref yn uwch nag y bu ar unrhyw adeg eleni.

Bu'n rhaid i 3,961 o gleifion aros yn hirach na hynny, gyda'r mwyafrif o'r rheiny yn Ysbyty Glan Clwyd, lle'r oedd 819 o gleifion wedi gorfod aros dros 12 awr i gael eu gweld.

Ambiwlans Awyr yn curo'u targed

Llwyddodd Gwasanaeth Ambiwlans Awyr Cymru i gludo 74.7% o achosion brys o fewn wyth munud, gan wella ar eu perfformiad ers mis Medi a pherfformio'n well na'u targed o 65%.

Fodd bynnag, 84.2% o gleifion canser oedd yn aros i gael eu trin gafodd driniaeth o fewn yr amser a osodwyd - llai na'r targed o 95% a llai na'r mis blaenorol.

Ond, cafodd 97.9% o'r cleifion gafodd ddiagnosis o ganser nad oedd yn peryglu bywyd eu trin o fewn yr amser a benodwyd. 98% yw'r targed.