Gobaith am brynwr i Ganolfan Bwyd Cymru yn Nyffryn Conwy
- Cyhoeddwyd
Mae gweinyddwyr yn obeithiol eu bod wedi dod o hyd i gwmni i brynu Canolfan Bwyd Cymru Bodnant sy'n cyflogi 50 o bobl yn Nyffryn Conwy.
Dywedodd Dean Nelson ar ran y gweinyddwyr Smith Cooper eu bod yn obeithiol y gallai cytundeb gael ei gwblhau "yn fuan" gan ddiogelu'r busnes.
Cafodd y cwmni ei roi yn nwylo'r gweinyddwyr ddechrau'r mis gan y perchnogion presennol Michael a Caroline McLaren.
Y dyn busnes sy'n gobeithio prynu'r safle yw Richard Reynolds.
"Rwy'n hapus iawn i fod mor agos at sicrhau perchnogaeth Canolfan Bwyd Cymru a byddaf yn gweithio'n galed i sicrhau ei ddyfodol," meddai Mr Reynolds.
"Rwy'n hyderus y bydd ei gynnyrch o safon uchel, ynghyd a'i enw da, yn ddigon i sicrhau ffyniant i'r blynyddoedd sydd i ddod."
Menter gwerth £6.5m
Ychwanegodd ei fod yn hyderus y gallai gyflawni a chwblhau unrhyw archebion sydd eisoes wedi ei wneud gan gyplau oedd wedi archebu'r safle ar gyfer brecwast priodas.
Pan gafodd y cwmni ei roi yn nwylo'r gweinyddwyr dywedodd Mr a Mrs McLaren nad oedd y busnes yn gynaliadwy er iddyn nhw fuddsodi yn sylweddol dros gyfnod o chwe blynedd.
Cafodd y ganolfan ei sefydlu yn 2012 a'i hagor yn swyddogol yn yr un flwyddyn gan y Tywysog Charles.
Fe wnaeth y safle dderbyn £2.7m o arian cyhoeddus, gyda'r fenter gyfan yn werth bron i £6.5m.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Tachwedd 2018