Cyfoeth Naturiol Cymru yn dymchwel caban pren cyn-filwr
- Cyhoeddwyd
Mae dyn wnaeth adeiladu caban pren i'w hun mewn coedwig yn Sir Caerffili yn dweud ei fod yn teimlo'n "dorcalonnus" wedi i swyddogion coedwigaeth ddinistrio'r strwythur.
Roedd Mike Allen, 37, wedi bod yn gweithio ar y caban ers dwy flynedd fel ffordd o ddelio gyda'i PTSD.
Dywedodd y cyn-filwr na fyddai'n "fyw heddiw" oni bai ei fod wedi gallu dianc i'r caban wedi i'w briodas chwalu.
Ond dywedodd Cyfoeth Naturiol Cymru fod yr adeilad yn "anghyfreithlon" a'i fod wedi gwneud niwed i'r amgylchedd.
'Fy noddfa'
Fe wnaeth Mr Allen wasanaethu fel milwr yn Afghanistan yn 2011, ac mae'n dweud ei fod yn dal i gael atgofion o un achlysur pan gafodd plismon oedd yn gweithio gydag e ei ladd gan ffrwydrad.
Gadawodd y fyddin yn 2014, ond cafodd brofedigaeth arall ddwy flynedd yn ddiweddarach wedi i'w fam farw.
"Erbyn hynny roeddwn i wedi cael diagnosis o PTSD ac fe wnaeth ei marwolaeth hi fy ngwthio i'n rhy bell," meddai.
"Mae'r cymorth iechyd meddwl sydd ar gael i gyn-filwyr yn warthus, ac yn gwneud llawer mwy o niwed na da."
Dywedodd fod adeiladu'r caban yn y goedwig yn Nyffryn Sirhywi wedi ei bod yn ffordd iddo ddianc o gymdeithas.
"Y caban oedd fy nghartref, fy noddfa. Doedd e ddim yn achosi niwed i neb ac roedd e'n fy ngwella i. Fydden i ddim yn fyw heddiw hebddo," meddai.
Yn ogystal â'r caban, fe adeiladodd Mr Allen gampfa, gardd a thŷ coeden ar gyfer ei blant pan fydden nhw'n ymweld â'r lle.
"Roedden nhw mor drist pan ddywedais i wrthyn nhw beth ddigwyddodd. Doedd fy mab i methu stopio crio."
'Niwed amgylcheddol'
Dywedodd llefarydd ar ran CNC: "Yn ddiweddar fe wnaeth ein swyddogion ddod o hyd i strwythur anghyfreithlon ar dir rydyn ni'n ei reoli ger Wattsville. Cafodd ei adeiladu heb i ni wybod a heb ein caniatâd.
"Roedd y tir o'i gwmpas wedi ei gloddio, nodweddion amgylcheddol wedi'u niweidio, a choed wedi'u torri.
"Fe wnaethon ni ymweld tair gwaith cyn gweithredu a doedden ni ddim yn credu bod unrhyw un yn byw yno."
Mae Mr Allen yn dweud ei fod bellach yn cysgu ar soffas ffrindiau eto, ond y bydd yn "ailadeiladu'r caban a pharhau i helpu eraill".