Cannoedd o dai heb drydan wedi tywydd garw
- Cyhoeddwyd
Mae rhybuddion am wyntoedd cryf mewn grym ar gyfer rhannau helaeth o Gymru ddydd Mercher a dydd Iau.
Mae Western Power Distribution wedi cadarnhau bod cannoedd o dai yn Hwlffordd, Dinbych-y-Pysgod, Pentre-cwrt, Castell-nedd a Phen-y-bont ar Ogwr heb drydan, ac mae Western Power yn gobeithio adfer y cyflenwadau hynny cyn diwedd prynhawn Mercher.
Mae sawl ffordd a phont ynghau oherwydd y tywydd, ac mae wedi effeithio ar drafnidiaeth gyhoeddus.
Mae fferïau rhwng Aberdaugleddau a Rosslare wedi eu canslo ac mae rhybudd i deithwyr ddisgwyl oedi ar y gwasanaeth rhwng Caergybi a Dulyn.
Bydd rhai o drenau Trafnidiaeth Cymru yn rhedeg yn arafach o achos y tywydd garw, a gallai teithwyr rhai o'r gwasanaethau ar hyd yr arfordir wynebu oedi.
Ni fydd rhai trenau'n stopio ym Mae Colwyn, Prestatyn na'r Fflint.
Mae coed wedi syrthio yn rhwystro heolydd ar hyd y wlad: gyda'r A487 rhwng Cross Foxes a Chorris, yr A487 ger Dinas yn Sir Benfro, yr A483 rhwng Garth a Llanfair-ym-muallt ger Cilmeri, a Heol Garnswllt ym Mhontarddulais wedi'u rhwystro i'r ddau gyfeiriad.
Mae'r A487 ger Llanarth yng Ngheredigion hefyd wedi cau wedi i geblau pŵer syrthio ar hyd yr heol. Mae'r ffordd yn debygol o fod ar gau tan 19:00.
Rhybudd llifogydd
Mae'r rhybudd mewn grym rhwng 09:00 a 21:00 ddydd Mercher, ac mae rhybuddion am lifogydd eisoes wedi eu cyhoeddi rhwng Llandudoch a Llanrhath yn Sir Benfro a hefyd yng Ngheredigion rhwng Borth ac Aberteifi.
Mae rhybudd o lifogydd posib hefyd yn effeithio ardaloedd ar hyd arfordir gorllewinol Ynys Môn, o Fae Cemlyn i Ynys Llanddwyn, ac mae rhybudd o lifogydd wrth i'r penllanw godi ger Caergybi mewn grym ar gyfer prynhawn dydd Mercher.
Bydd rhybuddion llifogydd yn cael eu diweddaru ar wefan Cyfoeth Naturiol Cymru, dolen allanol yn ystod y dydd.
O ganlyniad i wyntoedd cryfion, mae cyfyngiadau cyflymder mewn grym i gerbydau sy'n teithio dros Bont Britannia ac ar yr A48 dros Bont Hafren.
Mae Pont Cleddau wedi cau i gerbydau uchel, ar ôl i Gyngor Sir Penfro rybuddio ddydd Mawrth y byddai hynny'n debygol o ddigwydd.
Yn ogystal, mae coeden wedi syrthio ger pont y rheilffordd ar Ferry Lane, ym Mhenfro gan rwystro'r A4139 yno i'r ddau gyfeiriad.
Cau Pont Hafren
Mae'r M48 Pont Hafren wedi cau i'r ddau gyfeiriad yn dilyn gwyntoedd cryf rhwng yr A466 yng Nghas-gwent a'r A403 yn Aust, Bryste.
Cafodd y gyffordd tua'r gorllewin ei agor am 13:50 ddydd Mercher, ond cafodd ei gau yn y ddau gyfeiriad ychydig cyn 15:20.
Mae'r rhybudd tywydd mewn grym ar draws arfordir Cymru, ac mae'r Swyddfa Dywydd yn disgwyl moroedd garw a thonnau uchel.
Ychwanegon nhw y bydd gwyntoedd dydd Iau yn effeithio ar lai o ardaloedd, ond mae'n bosib y bydd hyrddiadau o hyd at 80mya y diwrnod hwnnw.
Mae rhybudd dydd Iau mewn grym o 03:00 nes 15:00.