Disgwyl mwy o drafferthion tywydd ledled Cymru

  • Cyhoeddwyd
coedenFfynhonnell y llun, Heddlu Lleol Doc Penfro
Disgrifiad o’r llun,

Daeth y goeden yma i lawr ar Ffordd Lawrenny ym Mhenfro

Mae disgwyl i wyntoedd cryfion barhau i achosi trafferthion ar draws Cymru ddydd Iau, yn ôl y Swyddfa Dywydd.

Dywedon nhw fod disgwyl "gwyntoedd cryf iawn" a fydd yn hyrddio hyd at 70mya mewn mannau.

Mae Trafnidiaeth Cymru eisoes wedi datgan na fydd trenau yn rhedeg rhwng Llanymddyfri a Llanwrtyd am fod coeden wedi syrthio ar hyd y trac.

Mae'r M48 tua'r dwyrain ar hyd Pont Hafren wedi cau i gerbydau uchel a beicwyr modur, gydag ond un lôn i'r gorllewin ar agor i geir. Mae teithwyr yn cael eu cynghori i ddefnyddio Pont Tywysog Cymru ar yr M4.

Mae cyfyngiadau cyflymder o 30mya hefyd mewn grym ar Bont Britannia rhwng Gwynedd ac Ynys Môn..

Mae Heddlu Dyfed-Powys yn cynghori teithwyr yng Ngheredigion i arafu, gan rybuddio bod llawer o ddŵr ar yr heolydd a changen wedi cwympo gan rwystro rhan o'r A485 ger Llanfarian.

Ffynhonnell y llun, Keith Morris | Swyddfa Dywydd
Disgrifiad o’r llun,

Rhybuddiodd y Swyddfa Dywydd y bydd gwyntoedd cryfion ar hyd y wlad ddydd Iau

Rhybuddion mewn grym

Mae'r rhybudd melyn mewn grym o 03:00 tan 14:00 ddydd Iau.

Mae pedwar rhybudd o lifogydd posib gan Cyfoeth Naturiol Cymru, dolen allanol mewn grym - gan gynnwys un yn nalgylch Ynys Môn a thri yn ne orllewin y wlad.

Bu problemau ar draws rhannau helaeth o'r wlad ddydd Mercher, yn enwedig ar hyd yr arfordiroedd, gyda llawer o gartrefi a busnesau heb drydan.

Cafodd llongau fferi eu canslo neu wynebu oedi ac fe gafodd nifer o ffyrdd a phontydd eu cau oherwydd y tywydd garw.

Nid yw'r Swyddfa Dywydd y DU wedi rhoi enw i'r digwyddiad, ond mae'r gwasanaeth tywydd ym Mhortiwgal wedi ei enwi yn Storm Diana.