Dynes wedi marw ar ôl derbyn anafiadau difrifol ar drên
- Cyhoeddwyd
Mae'n debygol fod dynes fu farw ar drên yn pwyso ei phen allan drwy ffenestr pan gafodd ei tharo, yn ôl yr heddlu.
Bu farw dynes 28 oed o Benarth ar ôl derbyn anafiadau difrifol i'w phen ar y gwasanaeth oedd yn teithio i Bristol Temple Meads am tua 22:10 ddydd Sadwrn.
Dywedodd Heddlu Trafnidiaeth Prydain mewn datganiad: "Mae'r ymchwiliad cychwynnol yn awgrymu efallai fod y ddynes wedi rhoi ei phen tu allan i'r ffenestr pan gafodd hi ei tharo."
Nid yw'r farwolaeth yn cael ei thrin fel un amheus ac mae teulu'r ddynes wedi cael gwybod am y digwyddiad.
Mae'r ymchwiliad yn parhau.