Ebol Arabaidd o orllewin Cymru'n bencampwr byd

  • Cyhoeddwyd
Teulu stabl Bychan Arabians yn dathlu buddugoliaeth AdmiraalFfynhonnell y llun, Sweet Photography
Disgrifiad o’r llun,

Teulu stabl Bychan Arabians yn dathlu buddugoliaeth Admiraal

Mae ebol a gafodd ei eni a'i fagu yn Sir Gaerfyrddin wedi dod i'r brig ym Mhencampwriaeth Ceffylau Arabaidd y Byd ym Mharis.

Yn ogystal â dod yn bencampwr yn y categori ar gyfer eboliaid blwydd oed, Admiraal oedd enillydd gwobr 'Symudwr Gorau' y bencampwriaeth ym marn panel o feirniaid rhyngwladol.

Cafodd Admiraal ei fagu yn stabl Emrys a Sue Jones - Bychan Arabians yn Ffairfach ger Llandeilo - a'i arddangos yn y bencampwriaeth gan eu mab, Rhodri.

Drwy ddod i'r brig roedd Rhodri Jones wedi cwblhau'r un gamp â'i dad, a ddaeth i'r brig yn yr un gystadleuaeth yn 1990.

Dywedodd Emrys Jones bod hi'n "anodd dodi bys" ar yr hyn sy'n gwneud Admiraal yn ebol mor arbennig.

"Mae popeth amdano... yn eich dala chi," meddai. "Ma' fe'n ddigon pert ac yn symud fel dim byd arall. O'dd y crowd yn dwli arno fe o'r eiliad ddoth e i mewn."

'Anarferol'

Roedd Admiraal ac un ceffyl arall wedi sicrhau'r nifer uchaf o bwyntiau yn ystod y bencampwriaeth gyfan.

Dywedodd Sue Jones bod hi'n "anarferol iawn" i geffyl mor ifanc wneud cystal, a'i fod wedi ennill pob un o'r pencampwriaethau y mae wedi cystadlu ynddyn nhw hyd yn hyn.

Ers mis Mawrth, mae hefyd wedi dod i'r brig yng nghystadleuthau'r Dubai International, y British International, yr All Nations Cup yn Yr Almaen, a'r Bencampwriaeth Ewropeaidd yng Ngwlad Belg.

Mae Admiraal yn perthyn i linach arbennig o geffylau o stabl Al Muawd, sy'n eiddo i un o gadfridogion Saudi Arabia. Roedd Rhodri Jones a'i frawd, Ryan, yn rheoli a hyfforddi ceffylau i'r cadfridog.

Ffynhonnell y llun, Sweet Photography
Disgrifiad o’r llun,

Rhodri Jones sy'n arddangos Admiraal ers i'r ebol ddechrau cystadlu

Cododd gyfle i ddefnyddio had un o stalwyni mwyaf llwyddiannus y byd ceffylau Arabaidd - Emerald J - i feichiogi chwech o gesig Bychan Arabians.

Roedd hynny ar yr amod bod stabl Al Muawd â'r hawl i gadw perchnogaeth eboliaid safon uchel, a dyna wnaethon nhw yn achos Admiraal, a gafodd ei eni yn Chwefror 2017.

Roedd mam Admiraal - Hanyyah - hefyd wedi ennill gwobrau cenedlaethol a rhyngwladol.

Bu'n rhaid cynnwys 'a' ychwanegol yn ei enw gan fod ceffyl o'r enw Admiral eisoes ar gofrestr y Gymdeithas Ceffylau Arabaidd.

Dywedodd Mrs Jones ei fod yn ebol "swil iawn ac yn arfer cuddio tu ôl i'w fam" am gyfnod ar ôl cael ei eni.

Ffynhonnell y llun, Sweet Photography
Disgrifiad o’r llun,

Mae Sue ac Emrys Jones yn bridio ceffylau Arabaidd ers dros 50 mlynedd

Gadawodd Ffairfach ddechrau Rhagfyr y llynedd am y stabl yn Riyadh, ac fe'i werthwyd fisoedd wedi hynny i Reolwr Emiraeth Ajman yn yr Emiradau Arabaidd Unedig.

Ond cyn pob cystadleuaeth mae'n dychwelyd i ofal y teulu Jones yng Nghymru. Nhw sy'n ei gludo i'r pencampwriaethau a Rhodri Jones sy'n ei arddangos i'r beirniaid.

Mae yna sawl elfen i'r gystadleuaeth, dolen allanol, medd Mrs Jones: "Maen nhw'n cerdded o gwmpas fel bod y beirniaid yn cymharu sut mae'r ceffylau'n symud, wedyn maen nhw'n dod i fewn fesul un, ac yna maen nhw'n aros yn eu hunfan o'u blaenau.

"Mae ceffylau, fel pobl, yn gallu cael diwrnodau da a diwrnodau drwg. Roedden ni bach yn nerfus - y tro hwn doedden ni ddim yn gwybod beth oedd disgwyliadau rhai o'r beirniaid."

'Fel ennill y loteri'

Ag yntau wedi cyflawni'r un gamp 28 mlynedd yn ôl, mae dod i'r brig mewn cystadleuaeth o'r fath safon "fel ennill y loteri", yn ôl Emrys Jones.

Wedi'r fuddugoliaeth ddiweddaraf ym Mharis, mae Admiraal bellach "mewn stabl fahogani ysblennydd yn Abu Dhabi", medd Mrs Jones.

Ychwanegodd bod "breuddwydion, weithiau, yn dod yn wir", a'i bod yn credu bod hi'n fwriad iddo barhau i gystadlu cyn y bydd yn ddigon hen i'w ddefnyddio er mwyn bridio.

Ffynhonnell y llun, Sweet Photography
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r fuddugoliaeth yn golygu bod Rhodri Jones wedi cyflawni'r un gamp â'i dad 28 mlynedd yn ôl